Sesiynau Blasu
Os oes gennyt ddiddordeb mewn dilyn un o gyrsiau UrddSgilio ond eisiau syniad o beth i ddisgwyl, cysyllta er mwyn trefnu sesiwn blasu yn rhad ac am ddim! urddsgilio@urdd.org
Beth i ddisgwyl yn ein sesiynau blasu?
Chwaraeon
Erioed wedi arwain gweithgaredd chwaraeon / gweithgarwch corfforol? Neu eisiau yr hyder i wneud? Dyma sesiwn byr sy’n dangos sut i ddelio ag agwedd a chyfrifoldebau arweinydd.
Cyfathrebu
Erioed wedi cynnal digwyddiad? Neu eisiau perswadio rhywun i wneud rhywbeth? Dyma sesiwn byr sy’n dangos ambell dechneg perswadio i ti ddefnyddio ar lafar o ddydd i ddydd ac yn y gweithle.
Cyflogadwyedd
Erioed wedi ceisio am swydd? Neu eisiau gwybod sut i baratoi dy CV cyntaf? Dyma sesiwn byr sy’n dangos sut i’w strwythuro a’i addasu yn ôl gofynion y swydd.
Llythrennedd Digidol
Erioed wedi creu cyflwyniad digidol? Neu eisiau dysgu technegau creadigol? Dyma sesiwn byr sy’n dangos sut i ddefnyddio technegau creadigol i ddenu sylw eich cynulleidfa darged.
Datrys Problemau Rhif
Erioed wedi prynu rhywbeth ar gytundeb? Neu eisiau gwybod sut i ganfod y fargen orau? Dyma sesiwn byr sy’n dangos sut i gymharu contractau i wneud penderfyniad a’r dewis gorau i ti.
NÔL