Mae'r Urdd wedi meithrin 4 miliwn o ddynion a menywod ifanc i fod yn falch o'u gwlad, yn agored i'r byd ac yn ymgorfforiadau byw o'u hiaith a'u diwylliant, ynghyd â'r gwerthoedd cyffredinol yr ydym yn eu gwerthfawrogi yng Nghymru.
Mae'r Urdd yn sefydliad hollol allweddol ym mywyd Cymru, yn gweithio gyda phartneriaid fel Llywodraeth Cymru, y Cyngor Prydeinig, y BBC, WRU, Gemau'r Gymanwlad, S4C, Wales Arts International i enwi ond rhai.
Rydyn yn sicrhau mentrau llwyddiannus i bobl ifanc ac yn y blynyddoedd diwethaf rydym wedi ehangu ein gwaith yn rhyngwladol trwy brosiectau yn yr UDA, Kenya, Seland Newydd, Iwerddon, Brwsel, Camerŵn, Awstralia, Japan, Patagonia a mwy. Rydym am barhau i weithio ochr yn ochr â'n partneriaid i adeiladu ar stori Cymru fel cenedl llwyddiannus, hyderus, fywiog ac agored.
Mae gan yr Urdd gynlluniau uchelgeisiol i sicrhau bod Cymru yn cael effaith gadarnhaol, er mwyn sicrhau bod mwy o bobl yn gwybod am Gymru, yn cynnig profiadau rhyngwladol i bobl ifanc ac yn dathlu cyfoeth diwylliannol Cymru.
Mae'r Urdd yn sefydliad unigryw yn y byd, ac rydym am greu pobl ifanc sy'n ymwybodol o’r byd y tu hwnt i Gymru, , ac fe gredwn y gallwn ni gyda’n gilydd dorri tir newydd gan amlygu:
• beth sy'n unigryw i Gymru
• ffordd o weithio sydd wrth wraidd Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol
• bod yn gyfrifol ar lefel fyd-eang
Rydym yn falch iawn o'r hyn yr ydym wedi'i gyflawni hyd yma, ac mae’n gweledigaeth ar gyfer y dyfodol yn parhau.
Dros y blynyddoedd diwethaf, bu'r Urdd yn creu cysylltiadau gwerthfawr rhwng pobl ifanc Cymru a phobl ifanc ledled y byd. Dyma fwy am ein gwaith rhyngwladol diweddar.
Darllenwch am deithiau gwych yr Urdd i ogledd America - rhai'n deithiau cerddorol, rhai'n addysgiadol ac yn rhan o Neges Heddwch 2023
Dysgu mwyDarllenwch am ein teithiau i Affrica, sy'n cynnwys ymuno a gŵyl Affricanaidd a chynnal prosiect Chwarae yn Gymraeg
Dysgu mwyMae gan yr Urdd berthynas arbennig gyda Phatagonia ac ers 2008 mae dros 300 o bobl ifanc wedi ymweld â'r Wladfa gyda ni.
Dysgu mwy