Hanes
Yn dilyn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019, sicrhawyd cyfle i enillydd y gadair gymryd rhan mewn gŵyl lenyddol fawr yn Affrica.

Enillydd y Gadair, Eisteddfod yr Urdd 2019
Iestyn Tyne oedd enillydd y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019.
Daw Iestyn o Ben Llŷn yn wreiddiol, ond mae bellach wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon, lle mae'n rhannu ei amser rhwng cyfieithu a gweithio’n llawrydd fel bardd, awdur, golygydd a cherddor.
Mae’n wyneb ac enw cyfarwydd i lawer ac yn enillydd coron Eisteddfod yr Urdd y Fflint 2016 a chadair Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru yr un flwyddyn. Dyma air bach gan Iestyn am ei daith i Gamerŵn.
"Rhan o wefr y cyfle a gefais i deithio i Gamerŵn oedd ei bod hi’n wlad oedd ddim ar fy radar i o gwbl cyn y pwynt hwnnw. Doedd gen i fawr o syniad am ddaearyddiaeth na diwylliant na ieithoedd na phobl y lle nes i mi gael ar ddallt y byddwn i’n cael mynd yno, ac felly roedd yr wythnosau cyn y daith, ac yna’r daith ei hun, yn addysg ar eu hyd.
Un o’r pethau mwyaf arhosol ydi bywiogrwydd y lle; y mynd cyson, nos a dydd, pawb ar ei ffordd i rywle neu at rhywun – ond yr un pryd ac yn gwbl groes i hynny rhywsut, yr agwedd gwbl ddi-hid at amser. Ro’n i’n poeni am fod yn hwyr i bob man nes i mi sylwi fod pawb yn rhedeg yn hwyr p’un bynnag!
Yn bennaf, mi gofia i angerdd a brwdfrydedd y criw ifanc sy’n trefnu’r African Festival of Emerging Writers, sy’n gweithio yn erbyn rhwystrau sylweddol i gyflawni eu gweledigaeth a rhoi llwyfan i awduron newydd a’u gwaith. Dwi’n cyfrif fy hun yn eithriadol o ffodus o fod wedi cael cyfle o’r fath i deithio fel awdur, i ddysgu a meithrin ymwybyddiaeth o ddiwylliannau eraill ar hyd y ffordd, a dwi’n mawr obeithio mai dyma’r cam cyntaf mewn partneriaeth fydd yn galluogi i bobl ifanc eraill gael yr un math o brofiadau yn y dyfodol."

Chwefror 2020
Teithiodd Iestyn i Gamerŵn i fod yn rhan o'r African Festival of Emerging Writers yn Chwefror 2020.
Yn ystod y daith, bu'n cymryd rhan mewn sgyrsiau llenyddol, yn perfformio drwy'r Gymraeg, yn arwain gweithdai mewn ysgolion lleol, ac yn cydweithio ag awduron rhyngwladol o Camerŵn, Nigeria, Yr Ariannin, a Ffrainc i greu pontydd diwylliannol rhwng y gwledydd hyn a Chymru.
Bu hefyd yn gweithio gyda'r awdur o Gamerŵn a Chymru, Eric Ngalle Charles, a'r awdur a'r trefnydd o Gamerŵn Raoul Djimeli.
Galeri'r daith




