Ym mis Awst 2024 aeth aelodau'r Urdd ar daith arall i Dde Kenya a oedd yn brofiad gwbl anhygoel ac ysbrydoledig. Cynhaliwyd sesiynau chwaraeon yng nglwm â seisynau arweinyddiaeth a gwaith tîm ar gyfer y merched sy'n trefnu'r cynghreiriau pêl-droed ym mhob cymuned. Roedd y sesiynau hyn yn cynnwys gweithdai i wella sgiliau cyfathrebu, gwrando, gwaith tîm, a datrys problemau, er mwyn cryfhau eu harweinyddiaeth.

Yn ogystal, darparwyd sesiynau aml-chwaraeon i dros 620 o ferched dros bum diwrnod. Roedd yn braf gweld cydweithio effeithiol ymhlith y merched, gyda hunan-hyder yn datblygu wrth iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau heriol ac adeiladol.

Yn ystod yr ymweliad â Mteza, cafwyd y criw y profiad o gael croeso cynnes gan henuriad y pentref, a roddodd anogaeth i'r merched i fachu ar bob cyfle i ddatblygu fel unigolion. Anogwyd hwy i ddefnyddio'r sgiliau a ddysgont er mwyn symud ymlaen o’r gymuned i lefydd gwell a sicrhau dyfodol mwy disglair.

Dysgwyd llawer am ddiwylliant ac iaith y pentrefi, a dechreuodd pob diwrnod gyda dawns a chân groesawgar gan y bobl leol. Ymhlith y lleoedd yr ymwelwyd â nhw oedd Danicha, Mrima Wa Ndege, Mteza a Mikomani. 

Fel y dywedodd un o'r bobl ifanc ar y daith: "What surprised me the most is the level of enthusiasm and commitment these girls have for sports, despite facing challenges. The way they embrace sports, regardless of their differences, really stood out. It was a powerful reminder that shows the power of sports."

Darllenwch yr adroddiad llawn i ddysgu mwy am y profiadau fythgofiadwy ac i glywed sylwadau'r naw aelod o'r daith.

Lluniau o'r daith