Partneriaeth yr Urdd a Her Future Coalition
Eleni mae'r Urdd yn lansio partneriaeth 3 blynedd gydag elusen Her Future Coalition yn India, fel rhan o flwyddyn 'Cymru yn India' Llywodraeth Cymru.
Bwriad y bartneriaeth yw cysylltu merched ifanc Cymru â phlant a phobl ifanc yn ardal Kolkata, India a chynnig cyfleoedd gwirfoddoli rhyngwladol i bobl ifanc yr Urdd. Roedd diddordeb anferthol yn y daith, ac yn dilyn proses dethol, mae 10 o ferched wedi eu dewis o bob rhan o Gymru a byddent yn teithio allan i India mis Chwefror 2025.
Mae Her Future Coalition yn elusen yn India sy’n ceisio gwneud newidiadau cadarnhaol ym mywydau menywod a merched sydd yn aml wedi cael neu a risg i gael eu tynnu mewn i gylch ‘sex trafficking’. Maent yn ceisio torri’r cylch tlodi gyda merched bregus drwy ddarparu addysg ac ystod lawn o wasanaethau sy’n cefnogi’r merched.
Fel rhan o strategaeth ‘Fel Merch’ yr Urdd bydd blwyddyn gyntaf y bartneriaeth yn cynnwys ymweld â Kolkata ar gyfer grŵp o bobl ifanc yr Urdd 18 i 25 mlwydd oed tuag at ddiwedd 2024 i gynnal sesiynau mentora gyda merched Kolkata, ynghyd a sesiynau hwyliog o fewn y celfyddydau a chwaraeon gan rannu ein hiaith a'n diwylliant a dysgu o brofiadau'r bobl ifanc yn India.
Teithiodd Sian Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, draw i India ym mis Chwefror 2024 er mwyn cyfarfod gyda Her Future Coaltion a sefydlu'r bartneriaeth newydd.
Lawns 'Cymru yn India'
Ail-gydio yng Nghyswllt yr Urdd a Kolkata
20 mlynedd yn ôl cynhaliwyd prosiect tebyg gan yr Urdd mewn partneriaeth gyda Chymorth Cristnogol yn Kolkata. Enw'r ymgyrch oedd 'Croeso Kolkata'.
Bwriad y prosiect oedd addysgu ieuenctid Cymru am fywyd yn Kolkata a chreu cyfeillgarwch rhwng Cymru a'r ardal. Fel rhan o'r prosiect cynhaliwyd taith gyda phobl ifanc o Gymru draw i Kolkata er mwyn ennill profiadau gwirfoddoli a chreu cysylltiadau newydd rhwng y ddwy ardal.
Ewch yma i ddysgu mwy am 'Croeso Kolkata'.
Gyda'r penderfyniad i lansio blwyddyn 'Cymru yn India' yn 2024 mi roedd yn gyfle perffaith i ailgydio yn y berthynas rhwng yr Urdd, Cymru ac India a chynnal prosiect gwirfoddol dyngarol i lysgenhadon yr Urdd.