Hanes
Diolch i gefnogaeth ariannol gan Cymru a’r Byd ac arian a godwyd yn lleol yn Awstralia, daeth cyfle arbennig i un prentis ac un o aelodau staff ifanc yr Urdd i ymweld â Sydney i gynnal gweithgareddau cyfrwng Cymraeg i blant ifanc yr ardal.
Ionawr 2020
Ym mis Ionawr 2020, aeth un o brentisiaid yr Urdd, Jack Perkins a Swyddog Ieuenctid yr Urdd, Lewys Wyn Jones i Sydney i gynnal gweithgareddau cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Haf Gymraeg Sydney.

Dyma’r tro cyntaf i’r Urdd wneud rhywbeth o’r fath, ac roeddem yn falch iawn o allu cynnig cyfle mor fythgofiadwy i'n staff ifanc gan roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned Gymraeg a phlant Cymraeg Sydney ar yr un pryd.
"Roedd o wir yn brofiad bythgofiadwy. Roedd y caban yn edrych dros Bont Harbwr Sydney ac roedd y plant yn arbennig o dda. Dw i’n sicr bydd y plant yn ogystal â ni yn cofio’r profiad am flynyddoedd i ddod. Yn sicr credaf fod eu hymdeimlad o fod siaradwr Cymraeg a’u balchder yn yr iaith wedi ffynnu. Mae hi’n bwysig fod y plant yn dysgu am eu diwylliant a’u treftadaeth er mwyn agor eu llygaid i weddill y byd."
Lewys

"Mae hi’n bwysig fod yr Urdd yn cael lledaenu eu neges tu hwnt i Gymru. Mae’r egwyddorion o degwch, dwyieithrwydd a chyfleoedd i bobl ifanc yn egwyddor draws genedlaethol ac yn rhywbeth dylai pawb fabwysiadu. Mae’r Urdd yn rhoi cyfle i bobl ifanc Cymru weld y byd, ac o ganlyniad yn agor eu llygaid i bethau bydol tu hwnt i Gymru."
Lewys
"Mae’n hynod o bwysig i’r Urdd ledaenu’r neges a chael presenoldeb y tu hwnt i Gymru! Mae Urdd yn rhoi'r cyfle i’r genhedlaeth nesaf sy’n wych!"
Jack
Galeri'r daith









