Cystadleuaeth y World School Sevens
Mae'r World School Sevens yn gystadleuaeth rygbi 7 bob ochr o dan 18 oed sy'n cael ei chynnal yn Auckland gyda thimoedd yn teithio yno o bob rhan o'r byd. Cynhaliwyd y gystadleuaeth eleni ar yr 17eg a'r 18fed o Ragfyr 2022, gyda 45 o dimau rygbi o 8 gwlad wahanol yn cymryd rhan. Am y tro cyntaf erioed teithiodd tîm o Brydain i'r gystadleuaeth World School Sevens, sef tîm 7 bob ochr yr Urdd, i gynrychioli'r mudiad a Chymru.
Yn 2022 lansiwyd cynllun #FelMerch yr Urdd i ymbweru merched mewn chwaraeon, a chwalu’r rhwystrau sy’n atal merched rhag cymryd rhan mewn chwaraeon. Roedd y daith yma yn gyfle gwych i'r merched gystadlu ar lwyfan ryngwladol yn erbyn timau 7 bob ochr gorau'r byd.
Dysgu am ddiwylliant a hanes Māori
Yn ogystal â’r cyfle i herio timau 7 bob ochr, cafodd tîm yr Urdd y cyfle i ddysgu am ddiwylliant a hanes Māori, wrth ymweld â Whakaata Māori (Māori TV) a Te Kaha o Te Rangatahi (grwp ieuenctid Māori) yn ardal Auckland.
Ynghyd â’r cyfle i rannu iaith a diwylliant Cymru i bobl yn Seland Newydd, dysgodd y tîm hefyd am iaith (te reo Māori) a diwylliant y Māori yn dilyn sefydlu cyswllt rhwng yr Urdd a Te Taura Whiri i Te Reo Maori (Comisiwn yr iaith Māori). Sefydlwyd y comisiwn hwn er mwyn arwain strategaeth iaith Māori y llywodraeth, ac i ganolbwyntio ar hyrwyddo te reo fel iaith fyw. Ewch yma i'w gwefan i ddysgu mwy.
Yn dilyn llwyddiant y daith, mae'r Urdd yn gobeithio datblygu'r berthynas rhwng yr Urdd, Cymru a chymunedau Māori Seland Newydd.
Diolch i Taith, Llywodraeth Cymru, am ariannu'r daith hon a gwneud y cyfleoedd arbennig yma'n bosib.
Galeri'r daith
![PHOTO-2022-12-14-08-38-57.jpg](/files/cache/6c08dc019cfb7c41d260164c4ac7df71_f13597.jpg)
![PHOTO-2022-12-12-04-42-47.jpg](/files/cache/e424fde03e75de62ff92d161ae47abf1_f13598.jpg)
![PHOTO-2022-12-13-06-00-33.jpg](/files/cache/67725eae2792a2dae1e1f8175bbf925b_f13599.jpg)
![PHOTO-2022-12-14-08-21-02.jpg](/files/cache/9803665fede6654039d809d495229318_f13600.jpg)
![PHOTO-2022-12-14-08-39-13.jpg](/files/cache/b8ce0b17716eb7d5a09ec86022480619_f13601.jpg)
![PHOTO-2022-12-16-01-05-52.jpg](/files/cache/524cc2d1bf028ff7d81605b181ef21da_f13602.jpg)
![PHOTO-2022-12-16-06-50-42.jpg](/files/cache/a92cf68894663dab891d1fec405831d0_f13603.jpg)
![PHOTO-2022-12-16-08-33-30.jpg](/files/cache/8fafae276a3ffeb470d1f23a668862d5_f13604.jpg)
![PHOTO-2022-12-18-08-30-44.jpg](/files/cache/f8836dbe6b31f72cadf553e864192955_f13605.jpg)