Hanes

Rhwng 2015 a 2019 mae'r siaradwyr gorau ymhlith cystadlaethau Siarad Cyhoeddus Eisteddfod yr Urdd wedi ennill y cyfle i ymweld â Brwsel, ar daith wedi'i threfnu gan Tom Jones, cynrychiolydd Cymru a'r DU ar Gyngor Economaidd a Chymdeithasol ar ran Cymdeithas Lywodraeth Leol. Daeth y bartneriaeth i ben oherwydd COVID, ond ym mis Mehefin 2024, ail-gydiwyd yn y daith er mwyn rhoi'r profiad i grŵp newydd o bobl ifanc o Gymru.

 

Y daith

Dyma daith addysgiadol i ddysgu am rôl y Deyrnas Unedig yn yr Undeb Ewropeaidd, pwysigrwydd lleisiau pobl ifanc, a hefyd yn gyfle i ysbrydoli aelodau'r Urdd am y posibiliadau o weithio mewn meysydd gwleidyddol yn y dyfodol. Fel rhan o'r daith mae'r bobl ifanc yn ymweld â Senedd Ewrop, y Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewropeaidd (EESC). Maent hefyd yn cael y cyfle i gyfarfod Cymry sy'n gweithio yn y Swyddfa Gymreig ym Mrwsel a Gweision Sifil i ddysgu am eu gwaith a’u rôl o fewn gwleidyddiaeth Ewropeaidd.

Taith Mehefin 2024

Teithiodd aelodau ifanc Byrddau'r Urdd a chystadleuwyr y Gystadleuaeth Siarad Gyhoeddus i Frwsel ym mis Mehefin 2024. Pwrpas y daith oedd parhau gyda phartneriaeth yr Urdd a Brwsel, wrth ddyfnhau dealltwriaeth pobl ifanc Cymru o lywodraethu a’r berthynas rhwng Cymru a’r UE. Yn ystod eu hymweliad, aethant ar daith o amgylch Senedd Ewrop, mynychu cyfarfod ym Mhwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop (EESC) a chael blas ar fywyd a diwylliant Gwlad Belg wrth grwydro’r ddinas. Bellach gellir integreiddio'r sgiliau dysgon nhw yn ystod y profiad hwn i'w rolau o fewn yr Urdd a'u cynorthwyo i barhau i gynyddu eu sgiliau siarad cyhoeddus. Roedd y cyfle bythgofiadwy hwn yn bosibl diolch i roddion hael Tom Jones a chefnogaeth Taith.

Taith 2024