Fel rhan o brosiect rhyngwladol yr Urdd sy’n rhannu ein hiaith a’n diwylliant, aeth tri o brosiectau’r Urdd deithio i ŵyl Interceltique Lorient a gynhelir rhwng 12 a 18 Awst. Mae’r ŵyl yn denu dros 700,000 o ymwelwyr yn flynyddol i fwynhau cerddoriaeth a diwylliant Celtaidd. Thema’r ŵyl eleni oedd ieuenctid, a chafodd yr Urdd am y tro cyntaf wahoddiad i fod yn rhan o'r ddathliad yma.
Yn dilyn proses ymgeisio agored, dewiswyd Aelwyd yr Ynys fel y côr llwyddiannus fydd yn perfformio yn enw’r Urdd yn yr ŵyl. A diolch i gefnogaeth ariannol cynllun TAITH cafodd dau brosiect arall gan yr Urdd y cyfle i deithio, sef prosiect Twmpdaith a Phrosiect Plethu.
Mae Twmpdaith yn brosiect a drefnir gan gynllun ‘Brosiect Wyth’ i hyrwyddo dawnsio Cymreig traddodiadol ymysg cynulleidfa iau yng Nghymru. Treialwyd y cynllun yn 2023 ac mae nôl eto eleni gan gynnig cyfle i 9 cerddor ifanc weithio dros fisoedd yr haf yng Nghymru gan gynnal Twmpathau amrywiol ar hyd a lled Cymru gyda penllanw teithio i Lorient i berfformio a dysgu o rai o draddodiadau Celtaidd eraill.
Mae’r Prosiectau Plethu yn dod â grwpiau o bobl ifanc ar draws Cymru at eu gilydd i gydweithio ac i arbrofi gyda’r celfyddydau i greu perfformiadau a chelfyddyd. yn rhan o'r prosiect yma ydy Ysgol Uwchradd Fitzalan a Clocswyr Conwy sy’n plethu stepio traddodiadol Cymreig gyda dawnsio Bollywood a Roma. Mae'r rhythmau, a phatrymau amrywiol yn creu gwledd i'r llygaid a'r clustiau. Mae'r criw o bobl ifanc wedi rhannu eu traddodiadau eu hunain i greu asiad cyfoes sy'n arddangos hunaniaeth.