Taith yr Urdd i Iwerddon - Ymgeisia!
Mae’r Urdd yn dychwelyd i Connemara, Iwerddon er mwyn cynnal y cwrs nesaf ar y cyd gyda TG Lurgan!
Rydym yn chwilio am bobl ifanc o Gymru sydd efo’r awydd i deithio, ac yn mwynhau creu cerddoriaeth a pherfformio.
Dyma gyfle arbennig i fod yn rhan o fideo cerddoriaeth newydd sbon a dysgu mwy am recordio a ffilmio. Byddwch hefyd yn cymryd rhan yng ngweithgareddau cwrs TG Lurgan.
Dyma brofiad hollol unigryw i ddysgu mwy am yr iaith Wyddeleg a gwneud ffrindiau newydd o Gymru ac Iwerddon!
Oed: Rhaid i ti fod ym mlwyddyn 10–13, neu mewn coleg chweched dosbarth. Rhaid bod ym mlwyddyn 10 -13 eleni - 2023/24.
Dyddiadau'r daith: 20/08/24 – 24/08/24
Pris: Dim ond £30! (gan gynnwys llety, trafnidiaeth, bwyd a gweithgareddau!)
Lleoliad: Connemara, Iwerddon
Teithio: Bws a feri
Sut i wneud cais? Mae angen llenwi’r ffurflen gais erbyn 12:00pm ar y 9fed o Orffennaf.
Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael, felly os oes mwy yn trio nag sydd o lefydd, byddem yn dethol yn seiliedig ar eich atebion i’r cwestiynau hir yn y ffurflen gais.
Dyddiad cau: 09/07/24 | 12:00pm – paid colli’r cyfle!
![](/files/6316/8718/3549/Iwerddon_-_gwefan_.png)
Hanes
Ym mis Mawrth 2020, lansiwyd partneriaeth newydd gyffrous rhwng yr Urdd a TG Lurgan, mudiad ieuenctid yn Iwerddon.
Pwy yw TG Lurgan?
Mae TG Lurgan yn fudiad ieuenctid arbennig yn Iwerddon. Eu bwriad yw hyrwyddo'r Wyddeleg a gwneud yr iaith yn apelgar i bobl ifanc trwy ganeuon cyfoes. Mae eu sianel YouTube yn cynnwys degau o gynhyrchiadau cerddorol trawiadol yn Y Wyddeleg, ac wedi denu miliynau o wylwyr!
Mehefin 2022 - Taith yr Urdd i Iwerddon
Yn dilyn llwyddiant y ddau cyd-gynhyrchiad rhithiol gyda TG Lurgan, fe drefnwyd bod aelodau o'r Urdd yn teithio draw i Connemara yn Iwerddon i greu'r cyd-gynhyrchiad cyntaf mewn person. Penderfynwyd i greu addasiad o gan boblogaidd Adele, 'Water Under the Bridge' yn y Gymraeg a'r Wyddeleg.
Ar ôl treulio noson yng Nglan-llyn ar yr 22ain o Fehefin, teithiwyd 16 o bobl ifanc 15 i 18 oed yn enw'r Urdd draw i Connemara, sef un o ardaloedd y 'Gaeltacht' i'r gogledd o Galway.
Cafwyd 4 diwrnod prysur yn Connemara yn ymarfer y gan, recordio a ffilmio'r fideo ar gyfer sianel youtube TG Lurgan. Creuwyd ffrindiau newydd ar y daith wrth i aelodau'r Urdd a phobl ifanc TG Lurgan rhannu diwylliannau'r ddwy wlad, megis dulliau cerddol, dawnsio gwerinol a phwysigrwydd a hanes y Gymraeg a Gwyddeleg.
Mawrth 2020
Lansiwyd y bartneriaieth rhwng y ddau fudiad ieuenctid yn Nulyn ym mis Mawrth 2020. Rhoddodd aelodau’r Urdd o Aelwyd yr Ynys, Ynys Môn, berfformiad cerddorol yn y Gymraeg gan ddilyn arddull cynhyrchiadau TG Lurgan, sy’n cymryd caneuon cyfredol a’u hailgreu yn Y Wyddeleg. Rhoddodd berfformiad cerddorol gan aelodau TG Lurgan hefyd.
Roedd y lansiad yn rhan o Wythnos Cymru Dulyn 2020 a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru.
![Sian Lewis, Eluned Morgan, Mícheál Ó Foighil ac aelodau o TG Lurgan ac Aelwyd yr Ynys](/files/2116/0320/4554/Welsh-Irish__language_launch-3.jpg)
Ionawr 2021
Er heriau'r pandemic i'r ddau fudiad, mae'r Urdd a TG Lurgan wedi rhyddhau cyd-gynhyrchiad ar ffurf fideo cerddoriaeth yn y Gymraeg a’r Wyddeleg, a hynny am y tro cyntaf erioed ar y 7fed o Ionawr 2021.
Mae ‘Golau'n Dallu / Dallta ag na Solise’ yn addasiad o’r gân boblogaidd ‘Blinding Lights’ gan The Weeknd. Bu i 28 o bobl ifanc o’r ddwy wlad recordio eu lleisiau o gartref a derbyn cyfarwyddiadau gan y fideograffydd Griff Lynch ar gyfer y fideo cerddoriaeth.
Bwriad y prosiect yw cyflwyno’r ddwy iaith leiafrifol i gynulleidfa fyd-eang, ac mae’r Urdd a TG Lurgan wedi dangos fod ffurfio partneriaeth rhwng y ddwy wlad yn hollbwysig er mwyn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc ffynnu.
Ebrill 2021
Yn dilyn llwyddiant ysgubol y fideo cerddoriaeth Cymraeg/Gwyddeleg cyntaf erioed, bu i aelodau o’r Urdd a phrosiect ieuenctid TG Lurgan ryddhau ail gyd-gynhyrchiad, 'Gwenwyn / Nimhneach'.
Penderfynwyd mai addasiad o gân Gymraeg fyddai’r ail gyd-gynhyrchiad, sef ‘Gwenwyn’ gan y band roc a blws, Alffa – y sengl Gymraeg gyntaf i gyrraedd miliwn o ffrydiau ar Spotify, ac sydd bellach wedi’i ffrydio dros 3 miliwn o weithiau ar draws y platfformau digidol.
Cyhoeddwyd 'Gwenwyn / Nimhneach' ar 22 Ebrill, ac mae'n cynnwys cyfraniadau gan 28 o Gymry a Gwyddelod ifanc. Yn ogystal â pherfformiadau gan gantorion, mae dwy ddawnswraig wedi cydlynu coreograffi gyda’i gilydd hefyd; ceir Elan Elidir yn dawnsio o dan bont ar Lwybr Elai yng Nghaerdydd, ac Aisling Sharkey ar do adeilad Coleg Berfformio’r Phoenix yn Nulyn.
Mae'r addasiad i’w chlywed ar wasanaethau ffrydio fel Spotify hefyd y tro hwn.
Galeri'r daith
![IMG_1761.jpg](/files/cache/6aa078b23d017f92578423c6af2d31f5_f12732.jpg)
![IMG_1847.jpg](/files/cache/def943c0cbae3da33f9b095ab2c9d8f2_f12733.jpg)
![IMG_1979.jpg](/files/cache/983026c4f1f17f2c831929bd698e4942_f12734.jpg)
![IMG_1779.jpg](/files/cache/3efd5f651f6b7bd175df89dfcd33638e_f12826.jpg)
![hoodies iwerddon.jpg](/files/cache/9ee5081c7fe75fc8c5e9e73ab5f4ceb4_f12827.jpg)
Ebrill 2023 - Cwrs Glan-llyn
![](/files/4116/8684/4524/PHOTO-2023-04-17-15-10-26_2023-04-17_14_14_57_1.jpg)
Awst 2023 - 2il daith yr Urdd i Iwerddon
Yn dilyn llwyddiant taith 2022 yr Urdd i Connemara, Iwerddon, penderfynwyd i ail-ymweld â Choleg TG Lurgan a rhoi'r cyfle arbennig i griw newydd o bobl ifanc o Gymru.
Teithiodd 30 o bobl ifanc o Gymru gydag staff yr Urdd draw i Orllewin Iwerddon ar gyfer pedair noson gyda'r Gwyddelod. Yn ystod y cwrs recordiwyd cyd-gynharchiad gwbl newydd yn y Gymraeg a'r Wyddeleg, sef cyfieithiad o'r gan 'We Are Young' gan Fun. Mi fydd y gan yn fyw ar Youtube TG Lurgan ac yn cael ei ryddhau ar ein cyfryngau cymdeithasol ar y 23ain o Hydref.
Yn ystod y cwrs wnaeth y Cymry ifanc hefyd cymryd rhan yn nifer o weithgareddau TG Lurgan, o sesiynau cerddorol i gemau chwaraeon.
Ar noson olaf y cwrs cynhaliwyd gig, ble cafodd y bobl ifanc o Gymru ac Iwerddon y cyfle i berfformio a hefyd mwynhau bandiau Gwyddeleg proffesiynol, fel Seo Linn.
Galeri'r Daith
![WhatsApp Image 2023-08-23 at 13.43.55.jpg](/files/cache/7caa796296f7612c6d2825fb8a02f2d5_f15012.jpg)
![WhatsApp Image 2023-08-22 at 17.42.58.jpg](/files/cache/279254695c22a0439e8be3b184ca12a5_f15013.jpg)
![WhatsApp Image 2023-08-24 at 22.00.31 2.jpg](/files/cache/82f1ebe21dda9ed25dbcd2c56cdf7d50_f15014.jpg)
![WhatsApp Image 2023-08-25 at 11.35.34 2.jpg](/files/cache/d849b7401f97830ceb4b5d749ae8a7b5_f15016.jpg)
![WhatsApp Image 2023-08-23 at 13.43.56.jpg](/files/cache/43f81830e8291369949d33b37a9af0a5_f15015.jpg)
![WhatsApp Image 2023-08-25 at 16.20.18.jpg](/files/cache/3153140fcd3558bda49a8605ef4af865_f15017.jpg)
![WhatsApp Image 2023-08-26 at 09.30.51.jpg](/files/cache/0e879f84d871f1345d11af301d61bc59_f15018.jpg)
![WhatsApp Image 2023-08-25 at 10.31.34.jpg](/files/cache/2fc9497835a4759d1b4b2cf59041d4b7_f15019.jpg)