Awst 2023 - 2il daith yr Urdd i Iwerddon
Yn dilyn llwyddiant taith 2022 yr Urdd i Connemara, Iwerddon, penderfynwyd i ail-ymweld â Choleg TG Lurgan a rhoi'r cyfle arbennig i griw newydd o bobl ifanc o Gymru.
Teithiodd 30 o bobl ifanc o Gymru gydag staff yr Urdd draw i Orllewin Iwerddon ar gyfer pedair noson gyda'r Gwyddelod. Yn ystod y cwrs recordiwyd cyd-gynharchiad gwbl newydd yn y Gymraeg a'r Wyddeleg, sef cyfieithiad o'r gan 'We Are Young' gan Fun. Mi fydd y gan yn fyw ar Youtube TG Lurgan ac yn cael ei ryddhau ar ein cyfryngau cymdeithasol ar y 23ain o Hydref.
Yn ystod y cwrs wnaeth y Cymry ifanc hefyd cymryd rhan yn nifer o weithgareddau TG Lurgan, o sesiynau cerddorol i gemau chwaraeon.
Ar noson olaf y cwrs cynhaliwyd gig, ble cafodd y bobl ifanc o Gymru ac Iwerddon y cyfle i berfformio a hefyd mwynhau bandiau Gwyddeleg proffesiynol, fel Seo Linn.
Lluniau o'r daith





