Awst 2024 – 3ydd taith yr Urdd i Iwerddon
Yn dilyn llwyddiant teithiau 2022 a 2023, teithiodd yr Urdd unwaith eto i TG Lurgan yn Connemara i gael addysgu criw newydd o bobl ifanc o Gymru am yr iaith Wyddeleg, diwylliant a'r broses o greu cerddoriaeth.
Fe aeth 27 o bobl ifanc o Gymru draw i Connemara, gyda staff yr Urdd ynghyd a gwirfoddolwyr, ac aros am bedair noson. Yn ystod y cwrs recordiwyd cyd-gynharchiad gwbl newydd yn y Gymraeg a'r Wyddeleg, sef cyfieithiad o'r gan ‘Dog Days are Over’ gan Florance and the Machine. Cafwyd llawer o hwyl yn recordio a ffilmio y gân yma, gan gynnwys llawer o olygfeydd lliwgar ar y traeth ac yn y gig.
Mi fydd y gân yn cael ei rhyddhau erbyn cychwyn mis Hydref, ond dyma'r ‘teaser’!
Ar noson olaf y cwrs cynhaliwyd gig o’r enw Féile D, ble cafodd y bobl ifanc o Gymru ac Iwerddon y cyfle i berfformio a gwerthfawrogi caneuon ei gilydd. Perfformiwyd Barti Ddu gan griw o Ynys Môn, Defaid William Morgan, Sbectol, Blaenau Ffestiniog a llawer mwy o glasuron Cymreig. Mi gafodd y noson yma ei ddarlledu yn fyw o gyfrif YouTube TG Lurgan, ac fe allwch ei wylio yma - TG LURGAN X URDD Féile D