Taith Slofacia: Chwarae yn Gymraeg 2024

Mae criw o’r Urdd wedi hedfan i Slofacia i gwrdd â disgyblion lleol yn Poprad gan gael amser gwych yn rhannu ein diwylliant a'r iaith Gymraeg drwy weithgareddau hwyliog. Y lleoliad cyntaf oedd ysgol uwchradd Stredná Športová Škola lle cafodd pawb sesiwn chwaraeon hwylus trwy’r Gymraeg – ac ychydig o wersi Cymraeg. Fe wnaeth bawb fwynhau’n fawr ac yn falch o glywed a defnyddio ambell air Cymraeg.

Yn nes ymlaen, cynhaliwyd sesiynau tebyg yn Základná škola i’r plant iau, ac roedd pawb yn gwirioni ar ddysgu am Gymru, tra roedden ni’n dysgu llawer am Slofacia hefyd. Roedd yr ysgolion mor groeawgar ac yn werthfawrogol tu hwnt o ymweliad yr Urdd. Ymunodd rhai o blant yr ysgol gynradd â chriw yr Urdd i gefnogi tîm merched Cymru yn Poprad – diolch enfawr i’r FAW am y tocynnau i bawb.

Yn anffodus, collodd tîm merched Cymru 2-1 yn y gêm flaenorol, ond roeddent yn barod i frwydro eto yn y gêm dyngedfennol yn rowndiau cymhwyso Pencampwriaeth Ewrop. Ar ôl gêm ddramatig yng Nghaerdydd ar y 29 o Hydref, ennillodd Cymru 2-0 a mynd trwyddo i Gemau Ail Gyfle. 

Mae’r daith wedi bod yn llawn hwyl i bobl ifanc yr Urdd ac yn gyfle anhygoel i rannu diwylliant Cymru a chyflwyno'r Gymraeg mewn ardal a gwlad newydd.

Diolch i TAITH am ariannu y daith hon.

Lluniau o'r daith