Ym mis Mehefin 2023 teithiodd Côr Gospel Prifysgol Birmingham, Alabama (University of Alabama at Birmingham) i Gymru er mwyn perfformio a dysgu mwy am ddiwylliant y wlad.
Yn ystod eu hymweliad wnaeth y côr brofi'r brifddinas ac aros yng Ngwersyll yr Urdd Caerdydd, gan ymweld â Chastell Caerdydd, canol y ddinas a Sain Ffagan. Cawsant hefyd y cyfle i berfformio i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, mewn digwyddiad yn y Senedd ac i gymuned ardal Butetown yng Nghanolfan Gymunedol Butetown.
Ar ddydd Sadwrn Eisteddfod yr Urdd teithiodd yr Urdd fyny i Lanymddyfri ar gyfer diwrnod llawn o berfformio i bobl ifanc Cymru, a mwynhau’r ŵyl. Cafwyd gweithdy gospel a pherfformiad ar y cyd efo Mared Williams yn y Garddorfa, ac wedyn perfformiad o ganeuon gopsel yn Gymraeg i'r holl aelwydydd ar y brif lwyfan.
Yno wnaeth y côr wario noson yn Aberystwyth er mwyn ymweld â'r brifysgol, perfformio ar y promenâd ac ymweld â'r Llyfrgell Genedlaethol.
I gloi'r daith cafwyd cyngerdd ar y cyd gydag Aelwyd y Waun Ddyfal yng Nghapel Gymraeg Salem, Caerdydd. Noson fythgofiadwy i gynulleidfa lawn wrth i nifer brofi canu gospel yn fyw am y tro cyntaf erioed.