Fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi 2024, teithiodd pedwar o gantorion ifanc talentog yr Urdd i berfformio mewn cyngherddau Dydd Gŵyl Dewi yng nghwmni Cymdeithasau Cymraeg Gogledd America.
Yn cynrychioli'r Urdd, a Chymru, oedd Owain Rowlands, Llinos Haf Jones, Ynyr Rogers a Manw Lili Robin. Ar ôl eu llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd, cawsant eu dewis i fod yn llysgenhadon i’r Urdd ar y daith.
Perfformiodd y criw mewn sawl digwyddiad cyffrous, mewn tair dinas gwahanol – Philadelphia, Efrog Newydd a Washington D.C.
Yn Efrog Newydd, roedd gwasanaeth hyfryd yn Eglwys y Cymry, ac yna mewn bar sydd â pherchennog o Gymru - The Liberty. Yn Philadelphia oedd y digwyddiad mwyaf, sef Cinio Mawreddog Cymdeithas Gymraeg Philadelphia, i ddathlu Dewi Sant. Cynhaliwyd gwasanaeth yn Eglwys Bresbyteraidd Gymreig Arch Street Philadelphia hefyd.
Yn Washington D.C. roedd digwyddiad Gŵyl Ddewi Llywodraeth Cymru Gogledd America yn y Llysgenhadaeth. Fe gafodd y criw groeso arbennig, a pherfformiodd Owain gân gyda James Roscoe, Cymro sy’n Ddirprwy Bennaeth Cenhadaeth draw yn D.C.
Mae teithiau fel hyn yn galluogi’r Urdd roi profiad perfformio ar lwyfan rhyngwladol i bobl ifanc Cymru, gan helpu'r rhai sy'n adeiladu gyrfa canu broffesiynol. Roed yn gyfle gwych i’r unigolion fagu hyder, ac i ffurfio cysylltiadau a chyfeillgarwch newydd.
Wrth gwrs, mae hefyd yn rhoi cyfle i bobl ifanc weld rhan wahanol o'r byd, a dysgu o'r profiadau hyn, gan rannu iaith a diwylliant Cymru'r un pryd.
Trefnwyd taith tebyg nôl yn Mawrth 2023, ac yn dilyn llwyddiant yr ymweliad hwnnw, roedd yr Urdd yn awyddus i barhau i ehangu ei pherthynas â’r Cymdeithasau Cymraeg draw yng Ngogledd America, ac eisiau ail-greu'r daith arbennig honno unwaith eto eleni gyda phedwar aelod arall.
Trefnwyd rhan fwyaf o’r digwyddiadau yma gan Gymdeithas Gymraeg Philadelphia, a hoffai’r Urdd ddiolch yn fawr iawn iddyn nhw am wneud y cyfle bythgofiadwy yma’n bosib i bobl ifanc Cymru. Yn y dyfodol, mae awydd brwd i barhau’r berthynas a gallu darparu mwy o gyfleoedd fel hyn i bobl ifanc berfformio a rhannu ein hiaith a’n diwylliant.