Dathlu Dydd Gwyl Dewi yn yr UDA

Ar ddydd Gwener y 24ain o Chwefror, teithiodd pedwar perfformiwr ifanc o Gymru i’r Unol Daleithiau, yng nghwmni cyn-lywydd yr Urdd, Dan Rowbotham o Geredigion. Ariannwyd eu hymweliad yn garedig gan gymdeithasau Cymreig Gogledd America, er mwyn cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau Dydd Gŵyl Dewi yn Philadelphia, Efrog Newydd, a Washington D.C. Treulion nhw naw diwrnod llawn yn ymweld a'r dinasoedd, gan berfformio mewn lleoliadau amrywiol, a hefyd cael cyfle i gwrdd â chymdeithasu gyda nifer o Gymry America.

Eu perfformiad cyntaf oedd yng Nghanolfan Gelfyddydau Herndon yn Washington D.C. ar Chwefror 25ain, a drefnwyd gan Gymdeithas Gymreig Washington D.C, noson o fwyd, cerddoriaeth, cân a chyfeillgarwch oedd yn berffaith i agor y digwyddiadau ar gyfer y bobl ifanc o Gymru, ac yn gyflwyniad hyfryd i ddiwylliant Americanaidd.

Ar ôl treulio'r noson yn y brifddinas, teithion nhw ar y trên o Washington D.C. i Ddinas Efrog Newydd. Fe'u croesawyd gan aelodau o'r Cymdeithasau Cymreig Efrog Newydd, ac arhoson nhw yn Brooklyn am dair noson i fywnhau'r ddinas a gweld yr atyniadau twristaidd. Yn ystod eu hamser yn y ddinas, fe berfformion nhw yng ngwasanaeth dydd Sul Eglwys Bresbyteraidd Rutgers, ac yn dilyn hynny perfformiad bywiog yn The Liberty yn Manhattan gyda'r Cymry o Efrog Newydd. Rhoddodd y ddau ddigwyddiad gyfle i’r perfformwyr gwrdd â gwahanol gynulleidfaoedd ac yn cynnig mewnwelediad pellach i'r gymuned Gymreig yn Efrog Newydd, boed hynny yn yr eglwys neu yn The Liberty. Roedd cael cwmni cyn-aelodau’r Urdd fel Matthew Rhys hefyd yn fonws!

Ar Ddydd Gŵyl Dewi ei hun, teithion nhw i Philadelphia ar gyfer yr arhosaid olaf ar eu taith yn yr Unol Daleithiau. Cafon nhw ddiwrnodau prysur yn perfformio yn yr Harriton House ac yng Nghapel Cymreig Eglwys Bresbyteraidd Arch Street. Fe berfformion y pedwar cantor ifanc hefyd yng Nghlwb Criced Meirion ar gyfer Derbyniad a Gwledd 295ed Dydd Gŵyl Dewi Cymdeithas Gymreig Philadelphia. Roedd y noson yn brofiad unigryw i'r bobl ifanc ddathlu diwylliant Cymreig, ac roedd y noson yn fwy arbennig fyth pan dderbynion nhw Wobr Rhagoriaeth yn y Celfyddydau Cymdeithas Gymreig Philadelphia ar ran yr Urdd. Mae'r Urdd yn ddiolchgar iawn i'r gymdeithas am gyflwyno'r wobr i'r sefydliad, gan gydnabod y gwaith o ddarparu cyfleoedd diwylliannol i bobl ifanc yng Nghymru.

Diolch yn fawr iawn i’r Pwyllgor a wnaeth yr ymweliad hwn yn bosibl, ac i'r gwesteion am groesawu’r grŵp i’w cartrefi hyfryd, gan wneud iddyn nhw deimlo’n gartrefol trwy gydol yr wythnos. Hoffai’r Urdd ddweud diolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd at greu'r ymweliad ffantastig hwn.

Mae’r pedwar cantor wedi ennill hyder yn eu hunain fel pobl ifanc, ond hefyd fel perfformwyr, gan eu helpu i ddatblygu ymhellach yn eu gyrfaoedd. Dyma beth oedd gan un o’r perfformwyr i’w ddweud:

“Roedd yr ymweliad cyfan yn anhygoel ac roedd derbyn y wobr yng Ngwledd Philadelphia ar ran yr Urdd yn foment arbennig iawn. Roeddwn i’n teimlo’n hollol gartrefol ym mhobman aethon ni – cwrdd â chymaint o bobl wahanol â chysylltiadau â Chymru – roedd hyn yn arbennig iawn, dwi wedi dysgu cymaint am y berthynas rhwng Cymru a’r Unol Daleithiau.”

Nod yr Urdd yw sicrhau bod ein haelodau’n cael profiadau amhrisiadwy ac yn dod yn falch o’u hiaith a’u treftadaeth. Roedd ymweliad Dydd Gŵyl Dewi 2023 yn brofiad gwych ac unwaith mewn oes i bawb a gymerodd ran. Mae’r Urdd yn edrych ymlaen at ddatblygu ei bartneriaeth gyda chymdeithasau a sefydliadau yn yr Unol Daleithiau, gan ddarparu rhagor o gyfleoedd i bobl ifanc o Gymru.

 

Lluniau o'r daith