Sefydlwyd yr Urdd bartneriaeth gyda Gŵyl Gogledd America ar ôl derbyn rhodd hael gan y diweddar Dr John M. Thomas. Mi roedd Dr Thomas yn Gymro oedd wedi ymgartrefu yn Florida, ond fe gadwodd gysylltiadau agos â'i wreiddiau Cymreig drwy atgofion o Eisteddfodau ei blentyndod. Yn ei ewyllys, dymunodd i roi'r cyfle i bobl ifanc Cymru i deithio a pherfformio, fel roedd o'n cofio ei wneud yn ifanc. Hoffai'r Urdd ddiolch i Dr Thomas a'r teulu am wneud y cyfle bythgofiadwy yma yn bosib i bobl ifanc Cymru.
Mae wythnos yr ŵyl yn dathlu diwylliant Cymreig wrth gynnal Eisteddfod, cyngherddau a ddetholiad o weithgareddau gwahanol. Ewch yma i ddysgu mwy ar yr ŵyl.