Yn 2022 cynhaliwyd yr ŵyl yn Philadelphia rhwng 31 Awst - 4 Medi. I gynrychioli'r Urdd yn yr ŵyl, teithwyd Siân Lewis Prif Weithredwr yr Urdd a 4 o bobl ifanc. Cafodd Siriol Elin, Manon Ogwen, Tomos Bohanna a Dafydd Jones eu dewis i gynrychioli’r Urdd draw yn Philadelphia gan banel o feirniaid yn Eisteddfod T 2021 ac Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022. Cafodd y cantorion y cyfle i berfformio mewn cyngerdd yn y Perelman Theatre, yn Macy's, tu allan i'r City Hall fel rhan o'r seremoni agoriadol a flashmob yng nghanol y ddinas i ddiddanu a chyflwyno diwylliant Cymreig i bobl y ddinas.

 

Ewch yma i weld y flashmob!

Pictures from the trip