Mewn cydnabyddiaeth o'u perfformiadau rhagorol yn Eisteddfod yr Urdd, cafodd Rose, Morus, Branwen ac Owain y cyfle i gynrychioli'r Urdd a Chymru yng Ngwyl Gogledd America y flwyddyn hon.

Yng Ngŵyl NAFOW, cafodd y perfformwyr nid yn unig y fraint o ganu yn y Gyngerdd Agoriadol ym Mharc 'City County Building', Pittsburgh, ond hefyd perfformio yn yr Amgueddfa Treftadaeth Cymreig-Americanaidd a chael cyfleoedd i gysylltu â Chymry America. Roedd yr ymweliad hefyd yn cynnwys cyfleoedd cymdeithasol, gan gynnwys ymweld â chôr Prifysgol Rio Grande ac ysgol leol, a mwynhau parti pwll a phitsa gyda Daniel Rowbotham, yn ogystal â diwrnod rhydd i grwydo Pittsburgh.

Roedd y profiadau hyn nid yn unig yn gyfle i'r perfformwyr ddatblygu eu talentau ond hefyd i feithrin cysylltiadau diwylliannol pwysig a dysgu mwy am hanes treftadaeth Cymreig yn America, gan gryfhau'r cysylltiadau rhwng y ddwy wlad.

Lluniau o'r daith