Taith yr Urdd i India

Yn dilyn sefydlu partneriaeth newydd rhwng yr Urdd ac elusen Her Future Coalition yn India, mae'r Urdd yn falch o gyhoeddi bydd cyfle i grŵp o ferched 18 i 25 oed deithio yn enw'r Urdd i India yn 2025.

Dyma gyfle gwirfoddoli bythgofiadwy i ferched ifanc o Gymru sydd â diddordeb i ymestyn eu gorwelion a chefnogi merched ifanc a phlant yn ardal Kolkata, India.

Bydd aelodau'r daith yn gwirfoddoli i elusen Her Future Coalition wrth gynnig sesiynau mentora gyda merched Kolkata, ynghyd a sesiynau hwyliog o fewn y celfyddydau a chwaraeon gyda phlant mewn ardal wledig tu allan i Kolkata, ysgol i ferched yng nghanol y ddinas a phrosiect sy'n gweithio gyda phlant y gymuned slum.

Rydym yn edrych am ferched brwdfrydig sydd awydd cyfrannu i waith dyngarol Her Future Coalition, a chael profiad teithio bythgofiadwy!

Bydd hefyd cyfle i flasu diwylliant India, ymweld â rhai o atyniadau dinas Kolkata gan wneud cysylltiadau a ffrindiau newydd o bob cwr o Gymru ac India!

Rydym yn rhagweld diddordeb mawr yn y daith hon, ond dim ond nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael ar y daith ac felly gofynnwn i bawb lenwi ffurflen cais neu gyflwyno cais ffeil sain/ffilm (manylion isod).

Cynhelir y daith rhwng dydd Gwener 21 Chwefror a 7/8 Mawrth 2025. Fe all yr union ddyddiadau yma newid ond o gwmpas y dyddiau yma rydym yn bwriadu teithio.

Ni fydd cost i'r daith hon i'r unigolyn ond byddwn yn gofyn i'r criw o ferched llwyddiannus godi arian - tua £250 y pen er mwyn gallu cyfrannu i brynu adnoddau neu offer fel gwaddol i'r plant a phobl ifanc yn India. Bydd staff yr Urdd yn helpu i gefnogi a chynnig syniadau ar ddulliau codi arian i helpu.

Ariannir y daith hon gan Lywodraeth Cymru fel rhan o ddathliadau Cymru yn India.

Am fanylion pellach cysylltwch â rhyngwladol@urdd.org

Manylion y daith:

  • Cyfle i 10/12 o ferched rhwng 18 a 25 oed
  • Teithio allan o gwmpas dydd Gwener 21 Chwefror a dychwelyd 7/8 Mawrth 2025. (Gall yr union ddyddiadau newid ond rydym yn rhagweld o gwmpas y dyddiadau yma.)
  • Cynnal sesiynau mewn ysgolion, prosiectau cymunedol, ac ysgol sy'n ymbweru plant mewn ieithoedd lleiafrifol.
  • Mwynhau diwylliant ac atyniadau amrywiol yn ninas Kolkata.
  • Cynnal sesiynau mentora gyda merched rhwng 13 a 25 oed sy'n byw yn Kolkata ac yn rhan o brosiectau Her Future Coalition.
  • Fe fydd dwy o staff yr Urdd ar y daith hon gyda chi.
  • Bydd costau teithio, llety a bwyd i gyd wedi ei dalu ar eich cyfer.
  • Rhagwelir nifer fawr o geisiadau ond nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael felly fe fydd proses ymgeisio.

Gofynion ar gyfer ymgeisio:

  • Diddordeb cyffredinol ym meysydd hawliau plant a merched a'r brwdfrydedd i wirfoddoli.
  • Bydd rhaid i'r ymgeiswyr llwyddiannus bod yn aelodau'r Urdd ar gyfer 2024/25.
  • Mae'r daith hon ar gyfer merched 18 i 25 oed (rhaid bod yn 18 oed a 25 neu iau erbyn dyddiadau'r daith.
  • Cymraeg fydd iaith y daith. Rydym yn annog dysgwyr i ymgeisio hefyd ond bydd rhaid gallu cyfathrebu ar lafar trwy'r Gymraeg.
  • Rhaid ymgeisio drwy lenwi'r ffurflen gais, neu ateb y cwestiynau ar lafar drwy ffeil sain (e.e. mp3) neu ffilm (e.e. mp4). Os oes angen cymorth arnoch cysylltwch â rhyngwladol@urdd.org
  • Mae'n rhaid ymgeisio yn y Gymraeg, ond ni fyddwn yn beirniadu ceisiadau yn seiliedig ar eich sgiliau ieithyddol.
  • Mae'r proses ymgeisio yn agor ar 30 Mai ac yn cau ar 19 Gorffennaf 2024.
  • Bydd panel yn dethol ymgeiswyr ac o bosib bydd cyfweliad rhithiol ( Teams/Zoom) i ddilyn

Ymgeisia!

I ymgeisio ar gyfer y daith mae angen cwblhau'r ffurflen yma cyn 12:00pm | 19 Gorffennaf.

Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael ar y daith. Sicrhewch felly eich bod yn rhoi ateb llawn i bob cwestiwn yn y ffurflen gais.

Byddwn yn ystyried pob cais yn fanwl ac yn penderfynu ar y ceisiadau llwyddiannus o fewn erbyn 9 Awst.

Byddwn yn hysbysu pob unigolyn llwyddiannus ac aflwyddiannus.