Swyddi a phrentisiaethau gwag

 Cliciwch ar y swyddi isod am fwy o fanylion a swydd ddisgrifiad!

Gweithio i'r Urdd

Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.

Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.

Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith ar bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.

Datganiad Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau, er mwyn sicrhau cyfle i holl ieuenctid Cymru ddatblygu'n unigolion cyflawn, a'u galluogi i chwarae rhan adeiladol yn y gymdeithas, gan feithrin sgiliau personol a chymdeithasol.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau swyddi gan bawb o bob cefndir a chymuned, gan gynnwys grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli ar hyn o bryd yn ein gweithlu fel pobl o bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, pobl LHDTI+ a phobl anabl.

I ddysgu mwy am Bolisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yr Urdd, cliciwch yma.

Ein Gwerthoedd

I Gefnogi:

  • Ein haelodau

  • Y defnydd o'r Gymraeg

  • Lles plant a phobl ifanc

  • Ein Gwirfoddolwyr

  • Ein staff

 

I Barchu:

  • Yr iaith

  • Pob amrywiaeth a gallu

  • Ein gilydd

  • Ein diwylliant a diwylliannau eraill

  • Ein gwahaniaethau 

 

I Ymbweru:

  • Dros Gymru a'n pobl

  • I wneud gwahaniaeth

  • Bod yn ddyngarol wrth eraill

 

Ein Buddion

Mae gweithio i'r Urdd yn brofiad unigryw. Yn weithle ble mae 98% o staff yn dod ymlaen gyda'u cydweithwyr, 97% yn teimlo balchder o weithio i'r mudiad ac 97% yn mwyhau eu swyddi; mae'r teimlad o berthyn a diwylliant gweithio cadarnhaol yn amlwg yma:

Dyma restru rhai o fuddion eraill gweithio i ni:

- Cynllun gweithio oriau hyblyg
- Diwrnod Gwyliau ychwanegol i dy Ben-Blwydd
- Cynllun Aberthu Cyflog seiclo i'r gwaith hyd at £3,000
- Diwrnod gwyliau ychwanegol Dydd Gwyl Dewi
- Cynllun Cefnogi Iechyd a Lles Staff lle ceir mynediad i wasanaeth cwnsela, meddygol ac chyngor cyfreithiol a chyllidol yn rhad ac am ddim 24/7
- Byddwn yn talu am eich aelodaeth proffesiynnol ynghlwm â gofynion eich swydd
- Diwrnod Anrhydeddus Dydd Gwyl Dewi
- Yswiriant Bywyd gwerth 3 gwaith eich cyflog
- Disgownt hael i staff ar nwyddau siop yr Urdd, gwyliau yn y gwersylloedd a thocynnau i'r Eisteddfod a'r Cwmni Theatr
- Cinio am ddim yn y Gwersylloedd
- Cynllun pensiwn 6%
- 25 Diwrnod o wyliau (pro rata) (gan godi i 28 diwrnod ar ol 5 mlynedd o wasanaeth a 33 diwrnod wedi 10 mlynedd) a Gwyl Banc yn ychwanegol pan mae'n disgyn