Cydlynydd Gweithgareddau Chwaraeon Ynys Mon ac Eryri

Teitl y Swydd:          Cydlynydd Gweithgareddau Chwaraeon Ynys Môn ac Eryri

Math o gontract:      Tymor penodol – 12 mis, Rhan amser (14 awr yr wythnos) 

Graddfa:                   Gweithredol 2 (£22,459-£24,763 pro rata) 

Lleoliad:                   Swyddfa Bangor  

 

Amdanom ni

Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.

Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.

Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.

Y Swydd

Cyfle cyffroes i unigolyn brwdfrydig a weithgar ymuno a thîm Adran Chwaraeon yr Urdd i gynnig darpariaeth gynhwysol chwaraeon i blant a phobl pobl ifanc y Sir.

Am fwy o fanylion cysylltwch â  Aled Jones , Rheolwr Chwaraeon Talaith y Gogledd a Gorllewin ar 01248 672 105 neu aled@urdd.org

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at swyddi@urdd.org

 

Dyddiad Cau – Dydd Gwener, 09 Awst 2024 am 11:59yb     

Dyddiad Cyfweld – Dydd Mercher, 14 Awst 2024

 

Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.