Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol

Teitl y Swydd:            Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol 

Math o gontract:       Swydd barhaol, llawn amser (35 awr yr wythnos) 

Graddfa:                   Gweithredol 5: £30,216-£33,662 y flwyddyn 

Lleoliad:                    Gwersyll Glan-llyn, Swyddfa Bangor neu Gwersyll Gaerdydd 

Dyddiad Cau:            Dydd Sul, 17 Tachwedd 2024 am hanner nôs 

Dyddiad Cyfweld:     Dydd Llun, 25 Tachwedd 2024 

Swydd Ddisgrifiad:   Cliciwch yma

Y Swydd 

Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol profiadol ac uchelgeisiol i arwain ac ychwanegu gwerth at ein llwyfannau digidol sy’n cynnwys amryw o sianeli cyfryngau cymdeithasol gan sicrhau fod ein cyfathrebu yn berthnasol, yn apelgar ac amserol.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Branwen Rhys, Rheolwr Cyhoeddiadau a Chyfathrebu ar branwenrhys@urdd.org

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd â'r Ffurflen Cyfle Cyfartal ar e-bost at swyddi@urdd.org

Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bawb o bob cefndir a chymuned, gan gynnwys grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli ar hyn o bryd yn ein gweithlu fel pobl o bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, pobl LHDTI+ a phobl anabl.

Amdanom ni 

Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.

Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.

Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith ar bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.