Swyddogion Prosiect – Eisteddfod Dur a Môr, Parc Margam a’r Fro 2025

Teitl y Swydd:         Swyddogion Prosiect – Eisteddfod Dur a Môr, Parc Margam a’r Fro 2025

Math o gontract:     Tymor penodol (hyd at Mehefin 2025), 28 awr yr wythnos (4 diwrnod yr wythnos)

Graddfa:                  Gweithredol 3: £24,942 - £27,191 y flwyddyn

Lleoliad:                  Swyddfa’r Urdd, Llansamlet neu hyblyg

 

Amdanom ni

Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.

Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.

Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.

Y Swydd

Mae dwy swydd ar gael – un yn gweithio’n ddwys gydag ysgolion Cyngor Sir Castell-nedd Port Talbot, ac un yn gweithio’n ddwys gydag ysgolion Cyngor Sir Abertawe.

Bydd y swyddogion yn gyfrifol am weithio’n ddwys gydag ysgolion ail-iaith ac ysgolion mewn ardaloedd ôl-ddiwydiannol penodol sydd wedi eu pennu gan y ddau Awdurdod Lleol, a’u hannog i gystadlu a chymryd rhan yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Mor 2025.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Llio Maddocks ar 07500607386 neu lliomaddocks@urdd.org

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at swyddi@urdd.org

 

Dyddiad Cau – Dydd Gwener, 20 Medi 2024   

Dyddiad Cyfweld – Dydd Mercher, 25 Medi 2024

Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bawb o bob cefndir a chymuned, gan gynnwys grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli ar hyn o bryd yn ein gweithlu fel pobl o bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, pobl LHDTI+ a phobl anabl.