Gwyliwr Nos

Teitl y Swydd:  Gwyliwr Nos

Math o gontract:  Achlysurol         

Graddfa:  Gweithredol 1: £12.00 yr awr

Lleoliad:  Gwersyll yr Urdd Caerdydd

 

Amdanom ni

Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.

Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.

Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.

 

Y Swydd

Mae Gwersyll yr Urdd, Caerdydd ar agor trwy’r flwyddyn, ac yn croesawu dros 11,000 o ymwelwyr yn flynyddol. Mae’r Gwersyll yn edrych am unigolyn a fyddai’n gallu gweithio yn achlysurol fel rhan o rota tîm gwylwyr nos y safle. Gweithio o 8yh tan 8yb.

Dyddiad Cau –  31/07/24

Dyddiad Cyfweld –  i'w gadarnhau

Am fwy o fanylion cysylltwch â Geraint John, Dirpwy Gyfarwyddwr Gwersyll Caerdydd ar 02920 635 672 neu geraintjohn@urdd.org

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at swyddi@urdd.org

 

Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.