Teitl y Swydd: Cynorthwyydd Cegin a Llety
Math o gontract: Swyddi parhaol a llawn amser (35 awr yr wythnos)
Graddfa: Graddfa 1: £21,840 (£12.00 yr awr)
Lleoliad: Gwersyll Yr Urdd Glan-llyn
Dyddiad Cau: 22/11/2024
Dyddiad Cyfweld: Wythnos dechrau 25/11/2024
Swydd Ddisgrifiad: Cliciwch yma
Y Swydd
Cynorthwyo gyda darparu gwasanaeth arlwyo effeithiol i wersyllwyr, ymgymryd â dyletswyddau cyffredinol o fewn y gwersyll, hyn yn cynnwys clirio a golchi llestri a chadw’r gegin a’r caban fwyta yn lân a thaclus. Ymgymryd â dyletswyddau glanhau ar y safle fel rhan o’r Tîm Glanhau.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Huw Symonds, Rheolwr Gwersyll ar 01678541000 neu huwsymonds@urdd.org
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at swyddi@urdd.org
Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bawb o bob cefndir a chymuned, gan gynnwys grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli ar hyn o bryd yn ein gweithlu fel pobl o bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, pobl LHDTI+ a phobl anabl.
Amdanom ni
Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.
Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.
Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith ar bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.