Teitl y Swydd: Cynorthwyydd Cegin a Llety
Math o gontract: Swydd barhaol, llawn amser (35 awr yr wythnos) neu rhan amser (oriau hyblyg)
Graddfa: Gweithredol 1: £21,840 y flwyddyn
Lleoliad: Gwersyll Glan-llyn
Amdanom ni
Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.
Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.
Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.
Y Swydd
Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig i ymuno a tim y gegin. Prif dyletswyddau’r swydd fydd edrych ar ol y caban fwyta a’r gegin, glanhau a thacluso yn ogystal a cynorthwyo’r cogyddion i ddarparu a pharatoi bwyd iachus, blasus ag amrywiol i’r gwersyllwyr. Bydd angen i’r ymgeisydd weithio cyfuniad o shifftiau bore, nos a phenwythnosau yn ol system rota.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Huw Symonds, Rheolwr Gwersyll ar 01678541000 neu huwsymonds@urdd.org
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at swyddi@urdd.org
Dyddiad Cau – 22/07/2024 *ymestyn yn fisol yn ol yr angen
Dyddiad Cyfweld – i'w gadarnhau
Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.