Teitl y swydd: Goruchwyliwr Cegin a Llety
Math o gytundeb: Swydd barhaol, rhan amser (yn agored i drafod unrhyw batrwm gwaith hyblyg)
Cyflog: Gweithredol 2 - £22,459-£24,763 (£12.34-£13.61 yr awr)
Lleoliad: Gwersyll yr Urdd, Glan-llyn
Amdanom ni
Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.
Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.
Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.
Swydd
Am fwy o fanylion, cysylltwch â Huw Symonds, Rheolwr Gwersyll ar 01678 541000 neu huwsymonds@urdd.org
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at swyddi@urdd.org
Dyddiad cau: 22/07/2024
Dyddiad cyfweld: i'w gadarnhau
Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.