Cynorthwyydd Arlwyo a Glanhau

Teitl y Swydd:            Cynorthwyydd Arlwyo a Glanhau 

Math o gontract:      Swydd barhaol, llawn amser (35 awr yr wythnos) 

Graddfa:                 Gweithredol 1: £21,840 y flwyddyn 

Lleoliad:                  Gwersyll yr Urdd, Llangrannog

 

Amdanom ni

Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.

Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.

Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.

Y Swydd

Mae angen uniolgion egnïnol a brwdfrydig sydd â diddordeb mewn arlwyo/glanhau i weitho fel rhan o dîm hyblyg i gyfrannu at lwyddiant y Gwersyll.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Rhiannon Flynn ar 01239 652148 neu Rhiannon@urdd.org

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at swyddi@urdd.org

 

Dyddiad Cau – Dydd Mawrth, 3 Medi 2024     

Dyddiad Cyfweld – I’w gadarnhau

Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bawb o bob cefndir a chymuned, gan gynnwys grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli ar hyn o bryd yn ein gweithlu fel pobl o bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, pobl LHDTI+ a phobl anabl.