Goruchwyliwr Cegin

Teitl y Swydd:          Goruchwyliwr Cegin 

Math o gontract:      Parhaol, llawn amser (35 awr yr wythnos) 

Graddfa:                   Gweithredol 2: £22,459 - £24,763 y flwyddyn 

Lleoliad:                   Gwersyll yr Urdd Llangrannog 

Amdanom ni 

Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.

Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.

Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.

Y Swydd 

Goruchwylio ac arwain tîm o staff i gyflawni’r holl ddyletswyddau sy’n gysylltiedig â gwasanaeth arlwyo a glanhau Llangrannog. Paratoi a choginio bwyd i’r safonau gofynnol fel y nodir gan y Rheolwr adran a’r Prif Gogydd.  Cydymffurfio gyda’r gweithdrefnau a safonau sydd wedi eu sefydlu, arwain a dangos esiampl. 

Am fwy o fanylion cysylltwch â Lowri Jones, Cyfarwyddwr y Gwersyll ar 01239 652 140 neu rhiannon@urdd.org neu lowri@urdd.org 

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at swyddi@urdd.org 

Dyddiad Cau – 9fed o Awst        

Dyddiad Cyfweld – wythnos y 19eg o Awst 

Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.