Gwyliwr Nos

Teitl y Swydd:  Gwyliwr Nos

Math o gontract:  Achlysurol         

Graddfa:  Gweithredol 1: £12.00 yr awr

Lleoliad:  Gwersyll yr Urdd, Llangrannog

 

Amdanom ni

Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.

Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.

Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.

 

Y Swydd

Mae Gwersyll yr Urdd, Llangrannog ar agor trwy’r flwyddyn, ac yn croesawu dros 25,000 o ymwelwyr yn flynyddol, a chyflogir dros 80 o staff.

Mae’r Gwersyll yn edrych am unigolyn a fyddai’n gallu gweithio rhan amser 2 noson yr wythnos (Nos Fercher a Nos Iau) fel rhan o rota tîm gwylwyr nos y safle.

Am sgwrs anffurfiol ac am fanylion pellach cysylltwch â Gwydion ab Ifan ar 01239 652140 dylanj@urdd.org neu Llangrannog@urdd.org

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at swyddi@urdd.org

 

Dyddiad Cau –  26/09/2024

Dyddiad Cyfweld – 03/10/2024

 

Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bawb o bob cefndir a chymuned, gan gynnwys grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli ar hyn o bryd yn ein gweithlu fel pobl o bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, pobl LHDTI+ a phobl anabl.