Teitl y swydd: Rheolwr Lletygarwch
Math o gytundeb: Swydd barhaol, llawn amser (35 awr yr wythnos)
Cyflog: Gweithredol 6: £34,866-£40,685 (£19.16-£22.35 yr awr)
Lleoliad: Gwersyll yr Urdd, Llangrannog
Amdanom ni
Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.
Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.
Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.
Y swydd
Mae’r swydd yn hanfodol i rhediad a gofal cwsmer gwersyll.
- Rheoli ac arwain tîm o staff llawn amser, rhan amser ac achlysurol yr Adran Arlwyo a Glanhau gan gymell, hyfforddi ac annog perfformiad gan yr holl staff, ynghyd a recriwtio staff o fewn cyllideb.
- Sicrhau bod swyddogaethau arlwyo a glanhau yn cael eu cyflawni i’r safonau uchaf. Arolygu gwasanaeth arlwyo a glanhau y gwersyll.
- Sicrhau safonau Iechyd a Diogelwch yr adran a bod gweithdrefnau’r adran yn addas.
- Cyfrannu at barhau i ddatblygu’r gwersyll fel aelod o’r tîm rheoli.
Mae’r gwersyll yn weithredol 7 diwrnod yr wythnos, ac ar gyfartaledd 50 wythnos y flwyddyn. Croesawir dros 25,000 o wersyllwyr yn flynyddol ar gyrsiau preswyl.
Dyddiad cau: 9fed Gorffennaf am Hanner Dydd
Dyddiad cyfweld: 15fed Gorffennaf 2024
Am fwy o fanylion, cysylltwch â Lowri Jones ar 01239 652140 neu lowri@urdd.org
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at swyddi@urdd.org
Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.