Swyddog Gweithgareddau

Teitl y Swydd:  Swyddog Gweithgareddau

Math o gontract:  Swydd barhaol, llawn amser (35 awr yr wythnos)

Graddfa:  Gweithredol 2: £22,459 - £24,763

Lleoliad:  Gwersyll yr Urdd Llangrannog

 

Amdanom ni

Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.

Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.

Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.

 

Y Swydd

Prif rôl y Swyddog Cynaladwyedd ac Ymgysylltu yw arwain ar y ddarpariaeth cynaladwyedd Gwersyll yr Urdd Llangrannog gan chwarae rhan arwyddocaol yn natblygiad gweithgareddau’r gwersyll ac ymgysylltu’r gweithgareddau hyn gyda’r ardal, busnesau ac atuniadau lleol. Fyddwch yn datblygu, cynnal ac arwain gweithgareddau a sesiynau yn seiliedig ar cynaladwyedd, lles, natur a’r diwylliant Cymraeg gan sicrhau fod hyn yn cael ei gwneud mewn ffordd hwylus a ddiogel.

 

Dyddiad Cau – 26ain o Orffennaf

Dyddiad Cyfweld – 13eg o Awst

 

Am fwy o fanylion cysylltwch â Bethan Roberts, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gwersyll ar 01239 652 140 neu bethanroberts@urdd.org

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at swyddi@urdd.org

 

Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.