Cydlynydd Gweinyddol a Chyllidol

Teitl y Swydd:  Cydlynydd Gweinyddol a Chyllidol

Math o gontract:  Swydd barhaol, rhan amser (28 awr yr wythnos)

Graddfa:  Gweithredol 3 - £24,942 (pwynt 1) - £27,191 (pwynt 4) y flwyddyn (pro rata)

Lleoliad:  Llangefni, Dinbych neu Llanisien

Dyddiad Cau:  8fed o Dachwedd 

Dyddiad Cyfweld:  Wythnos yn dechrau Tachwedd 18fed

Swydd Ddisgrifiad:  Cliciwch yma 

 

Y Swydd 

Beth am ymuno a thim egniol Ieuenctid a Chymunedol yr Urdd sydd yn darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc fwynhau gweithgareddau amrywiol yn eu hardal leol a thu hunt trwy gyfrwng y Gymraeg a thu allan i’r ystafell ddosbarth.  Mae’r adran yn cynnig cymorth a chefnogaeth i wirfoddolwyr ac yn cefnogi cymunedau ledled Cymru.

Mae’r rôl hon yn cefnogi holl waith yr adran Ieuenctid a Chymuned gan gynnwys yr Eisteddfodau, Teithiau i Wersylloedd yr Urdd, Teithiau Rhyngwladol, cydlynu system data GDG (DBS) a hyfforddiant Staff a Gwirfoddolwyr yr Adran yn ogystal a llif Ariannol yr adran a chreu anfonebau.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Sian Morris Jones (Cyfarwyddwr Ieuenctid a Chymuned) ar 07494775897 neu sianmorrisjones@urdd.org

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at swyddi@urdd.org

Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bawb o bob cefndir a chymuned, gan gynnwys grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli ar hyn o bryd yn ein gweithlu fel pobl o bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, pobl LHDTI+ a phobl anabl.

Amdanom ni 

Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.

Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.

Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith ar bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.