Swyddog Cymunedol Ynys Môn

Teitl y Swydd:          Swyddog Cymunedol Ynys Môn

Math o gontract:      Parhaol

Graddfa:                   Gweithredol 4 (£27,200-£29,916)

Lleoliad:                   Swyddfa Llangefni

 

Amdanom ni

Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.

Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.

Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.

Y Swydd

Beth am ymuno a thim egniol Ieuenctid a Chymunedol yr Urdd sydd yn darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc fwynhau gweithgareddau amrywiol yn eu hardal leol a thu hunt trwy gyfrwng y Gymraeg a thu allan i’r ystafell ddosbarth.  Mae’r adran yn cynnig cymorth a chefnogaeth i wirfoddolwyr ac yn cefnogi cymunedau ledled Cymru.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Sian Morris Jones (Cyfarwyddwr Ieuenctid a Chymuned) ar 07494775897 neu sianmorrisjones@urdd.orgneu Eryl Williams (eryl@urdd.org)

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at swyddi@urdd.org

Dyddiad Cau – Awst 5ed 2024 am 12.00yp

Dyddiad Cyfweld – Awst 9fed 2024

 

Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.