Teitl y Swydd: Prentis Arwain Gweithgareddau Chwaraeon - Gwynedd ac Ynys Môn
Math o gontract: 13 mis, llawn amser (35 awr yr wythnos)
Graddfa: Prentis Blwyddyn 1 (Lefel 2) - £12,394 y flwyddyn
Lleoliad: Gwynedd ac Ynys Môn
Prif bwrpas y swydd:
Cyfle i unigolyn gyda diddordeb mewn chwaraeon i ymgymryd â phrentisiaeth o fewn Adran Chwaraeon yr Urdd.
Amdanom ni
Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.
Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.
Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.
Y Swydd
Nod y swydd fydd cynyddu cyfranogaeth plant a phobl ifanc mewn gweithgaredd chwaraeon cyson, drwy'r cyfrwng y Gymraeg.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Catrin Davis, Pennaeth Prentisiaethau ar catrindavis@urdd.org
Anfonwch Ffurflen Gais Prentisiaethau’r Urdd ar e-bost at prentisiaeth@urdd.org
Dyddiad Cau: 12/07/2024
Dyddiad Cyfweld: i'w gadarnhau
Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.