Staff Haf / Tymhorol

Teitl y Swydd:  Staff Haf / Tymhorol

Math o gontract:  Penodol, llawn amser (35 awr yr wythnos)

Staff Haf:  Ebrill 14eg hyd at Awst 31ain 2025

Tymhorol:  Ebrill 18fed hyd at Tachwedd 30ain 2025

Graddfa:  G1: £21,840 neu G2: £22,459 - £24,763 (yn ddibynnol ar brofiad a chymwysterau)

Lleoliad:  Gwersyll yr Urdd, Llangrannog

Dyddiad Cau:  10fed o Fawrth

Dyddiad Cyfweld:  i’w gadarnhau

Swydd DdisgrifiadCliciwch yma

 

Y Swydd

Cyfle ardderchog i fyfyriwr neu berson ifanc ennill profiad a chyflog yn y byd addysg awyr agored a hamdden. Fydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus cynorthwyo’r Gwersyll a’r Adran Weithgareddau i ddarparu gwasanaeth cyflawn a phroffesiynol fel y gall y cwsmeriaid fwynhau amrediad eang o weithgareddau cyffrous.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Bethan Roberts (Dirprwy Gyfarwyddwr) ar 01239 652 140 neu bethanroberts@urdd.org

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd â'r Ffurflen Cyfle Cyfartal ar e-bost at swyddi@urdd.org

 

Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bawb o bob cefndir a chymuned, gan gynnwys grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli ar hyn o bryd yn ein gweithlu fel pobl o bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, pobl LHDTI+ a phobl anabl.