Swyddog Gweithgareddau x4

Teitl y Swydd:  Swyddog Gweithgareddau x4

Math o gontract:  Swydd barhaol, llawn amser (35 awr yr wythnos)

Graddfa:  Gweithredol 2: £22,459 - £24,763

Lleoliad:  Gwersyll yr Urdd, Llangrannog

Dyddiad Cau:  10fed o Fawrth

Dyddiad Cyfweld:  i’w gadarnhau

Swydd DdisgrifiadCliciwch yma

 

Y Swydd

Mae Swyddogion Gweithgareddau yn rhan annatod a hynod o bwysig o Wersyll Llangrannog. Byddwch yn darparu gwasanaeth cyflawn a phroffesiynol fel y gall cwsmeriaid, yn bennaf plant a phobl ifanc, fwynhau amrywiaeth eang o weithgareddau diogel, cyffrous sy’n cynnig cyfleoedd a phrofiad dwyieithog, cymdeithasol ac addysgiadol i blant a phobl ifanc.

Byddwch yn chwarae rhan arwyddocaol yn weithrediad a datblygiad y gweithgareddau a rhediad esmwyth y sesiynau, amserlen a gweithgareddau.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Bethan Roberts (Dirprwy Gyfarwyddwr) ar 01239 652 140 neu bethanroberts@urdd.org

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd â'r Ffurflen Cyfle Cyfartal ar e-bost at swyddi@urdd.org

 

Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bawb o bob cefndir a chymuned, gan gynnwys grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli ar hyn o bryd yn ein gweithlu fel pobl o bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, pobl LHDTI+ a phobl anabl.