Swyddog Nawdd a Phartneriaethau (Cyfnod Mamolaeth)

Math o gytundeb: Tymor penodol (cyfnod mamolaeth hyd at 12 mis)

Oriau:  Llawn amser (35 awr yr wythnos)

Graddfa:  Gweithredol 5: £30,216 - £33,662 y flwyddyn

Lleoliad:  Un o brif  swyddfeydd yr Urdd (Caerdydd, Bangor, Caerfyrddin, Llangrannog, Glan-llyn, Llansamlet)

Dyddiad Cau:  10fed Ionawr am hanner nôs

Dyddiad Cyfweld:  Wythnos yn cychwyn 13 Ionawr

Swydd Ddisgrifiad:  Cliciwch yma

 

Y Swydd

Cyfle cyffrous i weithio fel rhan o dim Eisteddfod yr Urdd i sicrhau incwm a phartneriaethau i ddatblygu a chynnal yr ŵyl ieuenctid fwyaf yn Ewrop.

Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus, profiadol ac uchelgeisiol gyda chysylltiadau niferus i weithio gyda staff yr adran i ddenu nawdd o ffynonellau masnachol a chyhoeddus i Eisteddfod yr Urdd a gwaith Celfyddydol yr adran.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau ar lliomaddocks@urdd.org   

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd â'r Ffurflen Cyfle Cyfartal ar e-bost at swyddi@urdd.org