Teitl y Swydd: Tiwtor / Asesydd Prentisiaethau Gwaith Ieuenctid (NEU Diwtor / Asesydd Prentisiaethau Gwaith Ieuenctid o dan hyfforddiant).
Math o gontract: Swydd barhaol, llawn amser (35 awr yr wythnos)
Graddfa: G4: £27,200 - £29,916 y flwyddyn NEU G3: £24,942 - £27,191 os o dan hyfforddiant
Lleoliad: Ar draws Cymru
Dyddiad Cau: 1af Ebrill am hanner nôs
Dyddiad Cyfweld: i’w gadarnhau
Swydd Ddisgrifiad: Cliciwch yma
Y Swydd
Mae cyfle cyffroes i unigolyn ymuno gyda’r adran fel Tiwtor / Asesydd Prentisiaethau Gwaith Ieuenctid neu Tiwtor / Asesydd Gwaith Ieuenctid (o dan hyfforddiant). Mae’r swydd yn cynnig cyfleodd deithio ar draws Cymru, i ymweld a gweithleoedd amrywiol ac i gefnogi ystod eang o brentisiaid.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Gary Lewis, Cyfarwyddwr Chwaraeon a Phrentisiaethau ar garylewis@urdd.org neu Ffion Evans, Rheolwr Sicrhau Ansawdd Arweiniol ar ffionevans@urdd.org
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd â'r Ffurflen Cyfle Cyfartal ar e-bost at swyddi@urdd.org
Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bawb o bob cefndir a chymuned, gan gynnwys grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli ar hyn o bryd yn ein gweithlu fel pobl o bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, pobl LHDTI+ a phobl anabl.
Amdanom ni
Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.
Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.
Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith ar bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.