Beth yw pris aelodaeth yr Urdd eleni?
Aelodaeth unigol: £10*
Aelodaeth teulu (3 neu fwy o blant): £25
*£1 yn unig i’r rheiny sy’n derbyn cefnogaeth drwy gynllun prydau ysgol am ddim
Beth yw'r Porth?
Cyn ymaelodi dy hun neu dy blant gyda’r Urdd, bydd gofyn i ti greu cyfri o fewn ein system ar-lein newydd sbon, Y Porth. Mi fydd y Porth yn galluogi ysgolion, adrannau, aelwydydd a rhieni fel ei gilydd i greu cyfri, ymaelodi gyda’r Urdd a gweld eu manylion yn rhwydd.
Mi fydd y system hon yn datblygu yn ystod y flwyddyn i gynnwys nid yn unig aelodaeth, ond hefyd ffordd o gofrestru i gymryd rhan mewn amrywiol weithgareddau a digwyddiadau, o chwaraeon i’r Eisteddfod a’r gwersylloedd – pob dim sydd yn ymwneud â’r Urdd, i gyd mewn un lle!
Barod amdani? Clicia yma i greu cyfri!
Pam nad oes opsiwn i dalu drwy Paypal ar Y Porth?
Fel elusen, rydym angen gwarchod ein hincwm gymaint â phosib, ac wrth adolygu ein systemau, daethpwyd i’r canlyniad y byddai cyflenwr taliadau gwahanol yn arbed canran o bob taliad i ni.
Nid oedd Paypal yn gweithio i bawb, ychwaith, ac mae ein cyflenwr newydd yn cynnig ffordd symlach i bawb dalu am ein gwasanaethau. Cyn hir, byddwn yn ychwanegu opsiynau talu gan ddefnyddio ApplePay a GooglePay, hefyd.
Dw i'n Arweinydd Cangen - sut ydw i'n creu cyfrif fewn Y Porth?
Arweinydd cangen heb dderbyn côd arbennig ar gyfer Y Porth?
Bydd Arweinwyr Cangen yn derbyn e-bost yn fuan ym mis Medi 2021 gyda chôd arbennig er mwyn gallu cychwyn gweinyddu drwy’r Porth. Ni fydd modd gweinyddu’r gangen heb ddilyn y drefn yma felly os nad ydych wedi derbyn yr e-bost yma, cysylltwch â ni: aelodaeth@urdd.org
Help! Fe wnaeth yr ysgol ymaelodi fy mhlant ond dw i angen gwybod eu rhifau aelodaeth
Cysyllta gyda dy ysgol gangen a gofyn iddynt rannu’r rhifau aelodaeth gyda thi. Gelli hefyd greu cyfri o fewn ein system ar-lein newydd, Y Porth, a gwneud cais am fynediad i rifau aelodaeth dy blant yno (bydd yr ysgol yn gorfod rhoi caniatâd i ryddhau’r data yma).
Beth wyt ti'n ei gael o fod yn aelod o'r Urdd?
Fel aelod o’r Urdd byddi’n rhan o fudiad ieuenctid mwyaf Cymru. Am y pris, bydd aelodau yn derbyn bathodyn a cherdyn aelodaeth a mynediad i holl weithgareddau’r Urdd. Mae’r ddarpariaeth yn amrywio o ardal i ardal ond mae clybiau, gweithgareddau, teithiau arbennig a chylchgronau am ddim i gyd yn rhan o gynnig aelodaeth yr Urdd:
- Gwersylloedd Llangrannog, Glan-llyn, Glan-llyn Isa’, Caerdydd... Cyfle am antur gyda ffrindiau yn ein gwersylloedd.
- Ieuenctid a Chymuned: Teithiau tramor, celfyddydau, cymdeithasu, gwneud ffrindiau newydd, adrannau ac aelwydydd a chyfleoedd gwirfoddoli.
- Eisteddfod yr Urdd: Cystadlu mewn amrywiaeth o gystadlaethau sy’n cynnwys canu a dawnsio, trin gwallt a harddwch, creu aps a chomedi stand yp.
- Chwaraeon: Rygbi, nofio, pêl-droed, pêl-fasged, gymnasteg... Mae pob math o glybiau, gweithgareddau a chystadlaethau ar gael drwy’r Gymraeg.
- Cylchgronau Cymraeg apelgar, hwyliog ac addysgiadol bellach ar gael yn ddigidol ac am ddim!
Oes angen bod yn aelod cyn cael cymryd rhan yng ngweithgareddau’r Urdd?
Oes, mae angen i ti fod yn aelod o’r Urdd er mwyn cael cymryd rhan yn ein gweithgareddau. Ond mae modd gwneud hynny’n hawdd drwy ein system ar-lein newydd, Y Porth.
Sut ydw i’n dod o hyd i rif aelodaeth?
Mae modd dod o hyd i rif aelodaeth drwy fewngofnodi i dy gyfrif yn Y Porth. Ar ôl ymaelodi gyda'r Urdd, byddi hefyd yn derbyn e-bost yn cadarnhau’r rhif aelodaeth.
Pryd bydda i’n derbyn fy mathodyn aelodaeth?
Byddwn yn postio dy fathodyn aelodaeth atat ti mor fuan â phosib, ond gall gymryd hyd at 4 wythnos ar adegau prysur o’r flwyddyn.
Oes modd i blant o dan 8 oed ymaelodi gyda’r Urdd?
Oes – mae’r Urdd yn croesawu plant o bob oed i fod yn aelod. Fodd bynnag, mae'r rhan helaeth o’n gweithgareddau yn addas i blant a phobl ifanc rhwng 8 a 25 oed.
Pryd bydd Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024?
Cynhelir Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024 yn ystod wythnos hanner tymor y Sulgwyn, sef 27 Mai – 1 Mehefin 2024. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am Eisteddfod yr Urdd.