Aelodaeth 2024-25

Oherwydd bod rhieni ac aelodau 16+ yr Urdd angen mynediad i’w rhifau aelodaeth, rydym yn gofyn i bob ysgol/cangen i annog a hyrwyddo aelodaeth uniongyrchol gan rieni/gwarchodwyr.

Bydd rhieni/gwarchodwyr angen rhifau aelodaeth ar gyfer gweithgareddau cymunedol neu ar ôl ysgol, yn ogystal â chystadlaethau amrywiol yr Urdd. Felly drwy annog rhieni i ymaelodi yn uniongyrchol bydd mynediad hawdd ganddynt i’r wybodaeth.

Byddai aelodaeth uniongyrchol hefyd yn lleihau’r baich gweinyddol arnoch chi ac yn sicrhau fod gan rieni/gwarchodwyr fynediad i rifau aelodaeth eu plant. Byddwch yn parhau i allu gweld a monitro aelodaeth eich ysgol/cangen o fewn ein system ar-lein, Y Porth.