Trawsnewid Prif Seremonïau’r Eisteddfod gan Gwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd

Eleni mae Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd wedi trawsnewid ac ail-ddychmygu teimlad, awyrgylch a strwythur prif seremonïau'r Eisteddfod.

Ym mis Ebrill daeth tîm celfyddydol at ei gilydd gyda thudalen wag i drafod, rhannu profiadau a llunio strwythur newydd prif seremonïau Eisteddfod yr Urdd. Ymysg y tîm roedd sgriptwyr, cerddorion, cynllunwyr, comediwyr, coreograffydd a chyn-enillwyr - â’r oll yn rhannu syniadau a phrofiadau personol i lunio ac arwain seremonïau’r dyfodol.

Penderfynodd y criw, sef Efa Dafydd, Branwen Davies, Elan Elidyr, Priya Hall, Meilir Ioan, Mared Llywelyn, Llio Maddocks, Leila Navabi, Osian Wyn Owen, a Lewys Wyn i gymryd ysbrydoliaeth o chwedl Taliesin, gan ddefnyddio’r syniad fod person yn cael ei drawsnewid wedi iddynt ennill y brif wobr yn eu maes. Mae’r chwe seremoni yn cynrychioli chwe Awen. Ar gyfer pob seremoni bydd yr Awen honno yn dod yn fyw mewn ffurf cymeriad o chwedl Taliesin.

Wedi eu gwisgo mewn gwisg drawiadol wedi ei gynllunio gan y dylunydd Efa Dyfan, bydd y chwe cymeriad - wedi eu chwarae gan aelodau presennol o gwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd - yn dechrau pob seremoni wedi eu gwasgaru ar hyd y Maes. Wrth i amser y seremoni agosáu, bydd y chwe chymeriad yn cerdded tuag at y llwyfan gan ddenu cynulleidfa i’w dilyn.

Bydd un Awen yn cymryd yr awenau bob dydd ac yn cynrychioli cystadleuaeth benodol. Yr Awen benodol fydd yn tywys y beirniad i’r llwyfan i draddodi. Wedi’r traddodi bydd y rhai ddaeth yn ail ac yn drydydd yn cael eu henwi.

Bydd yr enillydd, fydd yn rhan o’r gynulleidfa, yn cael eu gwahodd i gamu i’r golau wrth i olau ddisgleirio ar ganol y llawr a bydd Awen y dydd yn mynd i gyfarch yr enillydd.

I gloi’r seremoni, bydd cerdd gyfarch benodol i’r enillydd yn cael ei rannu gan y beirniad cyn i’r enillydd gael eu tywys gan y chwe Awen drwy’r gynulleidfa i gerddoriaeth yr arwydd gân ‘Sain Cerdd a Chân’. Bydd y Prif Seremonïau yn digwydd pob dydd (29 Mai – 3 Mehefin) am 2pm, ar Lwyfan y Cyfrwy.