Partneriaeth yr Urdd a Chymdeithas Bêl-droed Cymru: Cyhoeddi carfan tîm Cymru ar Faes Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin

Heddiw (Dydd Mawrth 30 Mai 2023) mae Rob Page, Rheolwr tîm pêl-droed dynion Cymru, yn cyhoeddi carfan tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru ar gyfer gemau mis Mehefin. Mae’r Urdd yn falch o groesawu Rob i Faes yr Eisteddfod.

Ers blynyddoedd bellach mae’r Urdd a Chymdeithas Bêl-droed Cymru wedi bod yn cyd-weithio i godi proffil y gêm ymysg plant ac i ddathlu ein balchder a hunaniaeth fel gwlad.

Mae’r bartneriaeth rhwng y ddau gorff yn cryfhau’r cyfle i ymgysylltu â phlant, pobl ifanc a theuluoedd ar draws y wlad i’w hannog i gymryd rhan mewn chwaraeon ac i ddathlu ein gwlad.

Fel rhan o’r bartneriaeth, cymrodd yr Urdd rhan flaenllaw yng nghynlluniau i hyrwyddo Cymru i lwyfan byd-eang yn ystod Cwpan y Byd FIFA yn Qatar y llynedd.

Ar drothwy Cwpan y Byd, aeth tîm o staff a llysgenhadon ifanc yr Urdd i Qatar i gynnal sesiynau chwaraeon a chelfyddydol mewn ysgolion yn Doha a Dubai. Drwy’r sesiynau hyn cyflwynodd yr Urdd Gymru, ein hiaith, diwylliant a’n gwlad i gynulleidfa newydd. Hefyd cynrychiolodd Côr Dyffryn Clwyd yr Urdd yn Qatar wrth ymuno ag artistiaid Cymreig amrywiol i arddangos talent Cymru i’r byd ynghyd â Jambori Cwpan y Byd yma yng Nghymru i 238,000 o blant.

Mae cynlluniau ar y gweill i ddatblygu’r bartneriaeth i’r dyfodol gan edrych i gydweithio mwy gyda thîm cenedlaethol y merched wrth iddynt gychwyn ar ymgyrch y Nations League.

Meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: “Mae perthynas yr Urdd a Chymdeithas Bêl-droed Cymru wedi mynd o nerth i nerth ac mae hi’n wych cael cydweithio. Rydym yn rhannu’r un weledigaeth, sef sicrhau i ddathlu ein hunaniaeth fel gwlad gan sicrhau hefyd cyfleodd i fwy o bobl glywed am Gymru ac i ni rannu hyn gyda gweddill y byd. Mae’n wych gallu gwahodd Rob Page i faes Eisteddfod yr Urdd a dwi’n ffyddiog fydd ein pobl ifanc yn mwynhau ar y maes yn ei gwmni.”