Rhestr Testunau Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr, Parc Margram a'r Fro 2025
Wyt ti awydd cystadlu yn un o ŵyliau ieuenctid mwyaf Ewrop? Mae Rhestr Testunau Eisteddfod yr Urdd 2025 yma yn barod i ti ddewis dy gystadlaethau!
Mae dros 300 o gystadlaethau, felly gwna’n siŵr dy fod ti’n cael golwg dda trwy’r llyfryn! O ddawnsio i gelf, ac o ganu i greu cynnwys digidol - bydd rhywbeth i ti a dy holl ffrindiau.
Anghyfarwydd â'r Eisteddfod a sut i gystadlu? Paid a phoeni, mae rheolau a chanllawiau ar gael ar dudalen 7 y Rhestr Testunau i dy helpu.
29. Côr S.A.T.B. Bl.13 ac iau i Ddysgwyr
100. PobUrdd Bl.4, 5 a 6
298. Darn o waith celf – cystadleuaeth i bobl ifanc rhwng 19 a 25 oed: Creu darn o waith celf gan ddefnyddio unrhyw gyfrwng.
376. Cystadleuaeth ysgrifennu traethawd Ysgol Feddygol Gogledd Cymru
21.10.24 - Dyddiad cau cofrestru CogUrdd a PobUrdd
27.01.25 – Dyddiad cau cystadlaethau Dawns ac Offerynnol
17.02.25– Dyddiad Cau Cystadlaethau Llwyfan a Maes
3.03.25 – Dyddiad Cau Gwaith Cartref, 19-25, a cystadlaethau yn syth i’r Genedlaethol
30.04.25 – Dyddiad Cau Celf, Dylunio a Thechnoleg
Mae'n bosib bydd ambell i beth yn newid yn y rhestr testunau. Gellir weld y newidiadau yma.
Dyma ble i ffindio rhai o ddarnau gosod 2025
Cofia bod rhaid i ti fod yn aelod o'r Urdd er mwyn cystadlu yn yr Eisteddfod!
Dyma becyn gwybodaeth PobUrdd 2025
Dyma becyn gwybodaeth CogUrdd 2025
Dyma becyn gwybodaeth CogUrdd 19-25 2025
Y Thema eleni yw Gwreiddiau, dyma ychydig o syniadau!
Bl.7 a dan 25 oed