Baner Glas yr Urdd yn chwifio o flaen Canolfan y Mileniwm

Beth yw Cronfa Cyfle i Bawb?

Nid yw pob plentyn yn cael cyfle i fynd ar wyliau haf. Nod Cronfa Cyfle i Bawb yw sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael cyfle i greu atgofion ar wersyll haf, a gallwch chi ein helpu!

Wyddoch chi bod 29% o blant Cymru yn byw mewn tlodi? Mae pob plentyn yn haeddu cael mwynhau haf o wneud atgofion gyda ffrindiau mewn amgylchedd diogel, ond gall tlodi atal plant rhag cael y cyfleoedd hyn. Rydyn ni am sicrhau fod pob plentyn yng Nghymru yn cael cyfle i greu atgofion ar wersyll haf, beth bynnag fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau ariannol.

Ers y 1930au mae degau o filoedd o Gymry wedi mynychu gwersylloedd haf yr Urdd, ac mae’n bosib iawn eich bod chi’n un o’r rheiny! Mae gan lawer ohonom atgofion melys o dwmpathau dawns, te gwersyll, cerdded i’r traeth ac wrth hynny creu ffrindiau oes! Bwriad yr ymgyrch newydd sbon hwn yw cynnig profiadau bythgofiadwy i griw newydd o ieuenctid Cymru.

Rydym yn chwilio am gyfranwyr i roi i Gronfa Cyfle i Bawb – Gwersylloedd Haf yr Urdd, i ariannu cyfnod yn un o’n gwersylloedd i blant na fyddai fel arall yn cael cyfle i fwynhau gwyliau haf.

Byddai cyfraniad o £250 yn talu am gost gwyliau llawn gweithgareddau i un plentyn, yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog, Glan-llyn, Caerdydd neu Pentre Ifan.

Hoffech chi ein helpu i sicrhau fod plant Cymru i gyd yn cael yr un cyfle i fwynhau gwyliau haf yn un o wersylloedd yr Urdd?

 

A group of children enjoying visiting Pentre Ifan on a sunny day

Cyfrannu ar-lein

Gallwch ddewis rhwng nifer o ffyrdd i gyfrannu i’r gronfa, ac mae hi’n broses hawdd a chyflym:

Sut galla i gefnogi?

Gallwch ddewis rhwng nifer o ffyrdd i gyfrannu i’r gronfa, ac mae hi’n broses hawdd achyflym:

1. Cyfraniad un tro trwy PayPal neu gerdyn credyd/debyd
2. Anfon siec yn daladwy i Urdd Gobaith Cymru ynghyd â’ch manylion cyswllt

Lowri Jones
Fund for All
Gwersyll yr Urdd Llangrannog
Ceredigion
SA44 6AE

Mae sawl pecyn nawdd ar gael:

  • £250 yn noddi lle i 1 plentyn
  • £750 yn noddi lle i 3 plentyn
  • £1250 yn noddi lle i 5 plentyn
  • £5000 yn noddi lle i 20 plentyn (pecyn o fuddion ar gael)

Gallwch wneud cyfraniad drwy unrhyw un o’r dulliau uchod neu gallwn eich anfonebu.

I drafod y pecynnau nawdd, cysylltwch â ni: cronfa@urdd.org

Yn ogystal a thrafnidiaeth, llety, a bwyd i blentyn am 5 diwrnod, bydd eich cyfraniad yn talu am hyd at 35 o weithgareddau cyffrous, gan gynnwys canŵio, rafftio, weiren zip, beiciau modur, sgïo, nofio, canu a dawnsio, heb sôn am y cyfle i wneud ffrindiau newydd a chreu atgofion oes.

Byddwn yn cadw mewn cysylltiad trwy anfon cylchlythyr ym mis Medi 2026 i ddangos i chi sut mae eich cyfraniad wedi gwneud gwahaniaeth, ac i gydnabod eich cyfraniad hael byddwch hefyd yn derbyn:

  • Bathodyn pin cyfrannwr
  • Cerdyn post o’r gwersyll
  • Tystysgrif (i gwmnïau)
  • Graffeg i rannu ar y cyfryngau cymdeithasol (i gwmnïau)
  • Cydnabyddiaeth ar wefan, chyfryngau cymdeithasol, ac yn adroddiad blynyddol yr Urdd (cyfraniadau dros £500)
  • Am gyfraniad o £5000 neu fwy, mae pecyn buddion ychwanegol ar gael. I drafod y pecynnau nawdd, cysylltwch â ni: cronfa@urdd.org

FAQs

  • plentyn/person ifanc rhwng 8 ac 18 oed
  • plentyn/person ifanc sy’n siarad Cymraeg yn hyderus neu’n dysgu
  • plentyn/person ifanc y mae ei rieni/gwarcheidwaid yn gymwys am brydau ysgol am ddim NEU gredydau treth gwaith
  • plentyn/person ifanc yr ydych chi’n teimlo y byddai’n elwa o Gwrs Haf yn un o Ganolfannau’r Urdd
  • does dim rhaid i’r plentyn/person ifanc fod yn aelod o’r Urdd i wneud cais.

*Noder, rhaid cyrraedd pob un o’r meini prawf hyn i gael cynnig lle.

Bydd y gronfa yn talu am bris cyfan y cwrs, ac hefyd trafnidiaeth i’r Gwersylloedd.

A group of children enjoying the 'RibRide' trip in Cerdydd Bay

Gwneud Cais

Bydd ceisiadau yn agor ym mis Mai 2027.