Canmlwyddiant yr Urdd

Trefnwyd llu o ddigwyddiadau i nodi’r garreg filltir gan gynnwys: torri dwy record byd, lansio prosiect #FelMerch, cynnig llwyfan i bawb ar Faes yr Eisteddfod a Jambori mawreddog i gefnogi tîm pêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd.

Ar Ddiwrnod Cariad@Urdd (25 Ionawr 2022) ymunodd dros 95,000 mewn parti pen-blwydd rhithiol ar Zoom. Gyda help ein cefnogwyr, torrodd yr Urdd ddwy record byd drwy uwchlwytho’r fwyaf erioed o fideos ohonynt yn canu’r un gân, sef ‘Hei Mistar Urdd’ i Twitter ac i Facebook.

Ar drothwy Diwrnod Rhyngwladol y Merched cynhaliwyd y gynhadledd chwaraeon ieuenctid benywaidd gyntaf erioed yng Nghymru i ysbrydoli a chefnogi mwy o ferched rhwng 16 a 25 oed i ymwneud â chwaraeon. Roedd y gynhadledd yn orlawn, ac mae ein diolch yn fawr i Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, am ei chefnogaeth barhaus i brosiect #FelMerch ac i Lywodraeth Cymru am ariannu’r digwyddiad.

Lansiwyd Neges Heddwch ein canmlwyddiant, ‘Yr Argyfwng Hinsawdd’ ar 18 Mai yng Nghanolfan Heddwch Nobel yn Oslo, Norwy, mewn digwyddiad arbennig yng nghwmni Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford. Lluniwyd Neges Heddwch y canmlwyddiant gyda chymorth myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth. Cyrhaeddodd y Neges pedwar ban byd, o Beriw i Zimbabwe, Fietnam i Seland Newydd a Moldova, ac roedd ar gael mewn 101 o ieithoedd (mwy nag erioed o’r blaen), gan gynnwys Iaith Arwyddo Prydain (BSL).

Yn dilyn cais gan Lywodraeth Cymru, trodd un o wersylloedd yr Urdd yn Ganolfan Groeso i dros 60 teulu o Wcráin oedd yn ffoi’r rhyfel am gyfnod o 5 mis dros yr haf. Braint oedd cael estyn llaw o gyfeillgarwch a chefnogi’r teuluoedd.Hoffai’r Urdd ddiolch i’n aelodau a’r ysgolion am eu dealltwriaeth a chefnogaeth yn ystod y cyfnod yma wnaeth ganiatáu i’r Mudiad gynnig lloches i’r ffoaduriaid.

Croesawyd 118,000 – y nifer uchaf erioed – drwy giatiau Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych. Diolch i gefnogaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru roedd mynediad i’r Eisteddfod am ddim yn 2022 a chamodd miloedd o gystadleuwyr ar lwyfannau tri o bafiliynau’r Eisteddfod wrth i’r Urdd gynnig ‘llwyfan i bawb’ am y tro cyntaf. Cynhaliwyd aduniad mwya’r ganrif i gloi’r Eisteddfod, gyda Gŵyl Triban yn goron ar Eisteddfod Sir Ddinbych, a’r digwyddiad celfyddydol cenedlaethol mwyaf i ieuenctid Cymru ers cychwyn y pandemig.

Teithiodd Mainc Hunlun Mistar Urdd i leoliadau a digwyddiadau ledled Cymru yn 2022. Lansiwyd y fainc unigryw ar Yr Wyddfa gan deithio i Aberystwyth, yr Eisteddfod Genedlaethol, Caerfyrddin, Casnewydd a hyd yn oed Tŷ Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad ym Mirmingham dros flwyddyn y canmlwyddiant.

Daeth pencampwyr o’r byd BMX, Sglefryrddio, Pêl Fasged Cadair Olwyn, Sgwtera a dawnsio ‘Breakin’ i Gaerdydd ym mis Mehefin i gystadlu yng nghystadleuaeth Gemau Stryd gyntaf Cymru. Cynhaliwyd digwyddiad y Gemau Stryd yn ardal Roald Dahl Plass dros benwythnos 17-18 Mehefin gan roi cyfle i blant a phobl ifanc gystadlu, gwylio a chymryd rhan yn y campau gyda pencampwyr byd.

Aeth prosiectau rhyngwladol yr Urdd o nerth i nerth yn 2022 wrth i aelodau’r Mudiad deithio i Alabama, Iwerddon, Philadelphia, Qatar, Dubai a Seland Newydd dros flwyddyn y cant.

Dros y Pasg, teithiodd Côr yr Urdd allan i berfformio yn Alabama, UDA gan barhau’r bartneriaeth gyda dinas Birmingham, Alabama. Cydweithiodd aelodau’r Urdd ar drydydd cynhyrchiad Cymraeg/Gwyddeleg gyda phrosiect ieuenctid TG Lurgan o’r Iwerddon. Ym mis Awst aeth pedwar llysgennad i Philadelphia i berfformio yng Ngŵyl Cymru Gogledd America; ac i ddiweddu’r flwyddyn cystadlodd tîm rygbi merched yr Urdd yn nhwrnamaint World School Sevens yn Seland Newydd – y tro cyntaf i dîm o Gymru gystadlu yn y gystadleuaeth.

Diolch i fuddsoddiad o £1 miliwn dros gyfnod o bum mlynedd gan Lywodraeth Cymru, ail-lansiwyd Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd yn hydref 2022 dan arweiniad Branwen Davies.

Cefnogodd yr Urdd y tîm pêl-droed cenedlaethol ag ymgyrch Tîm Cymru 2022 dros gyfnod Cwpan y Byd. Trefnwyd sesiynau pêl-droed a diwylliannol mewn 23 o gyn ysgolion cynradd carfan tîm pêl droed Cymru yng Nghymru a Lloegrfel rhan o’rDaith Ysgolion. Aeth tîm o staff a llysgenhadon i gynnal sesiynau chwaraeon a diwylliannol mewn ysgolion yn Doha a Dubai, a bu Côr yr Urdd ag artistiaid eraill yn rhannu iaith a diwylliant Cymru i gynulleidfa ryngwladol drwy berfformio mewn digwyddiadau ac amryw leoliadau ar hyd Doha.

Ym mis Tachwedd daeth bron i chwarter miliwn o blant Cymru at ei gilydd ar Zoom i gyd-ganu a dangos eu cefnogaeth i dîm pêl-droed Cymru yn Jambori Cwpan y Byd. Uchafbwynt y digwyddiad oedd canu Yma o Hyd yn fyw hefo Dafydd Iwan. Cynhyrchwyd y digwyddiad gan yr Urdd mewn partneriaeth â Stwnsh Sadwrn, BBC Cymru, S4C, Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Llywodraeth Cymru.

Braint gan y Mudiad oedd derbyn amryw o wobrau cenedlaethol yn 2022. Dyfarnwyd Gwobr Arbennig y Prif Weinidog i’r Urdd yng Ngwobrau Dewi Sant, derbyniwyd Marciau Ansawdd Arian ac Aur Gwaith Ieuenctid yng Nghymru gan GCA a Llywodraeth Cymru ynghyd ag anrhydedd gwobr Sefydliad y Flwyddyn gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Braint hefyd oedd bod y sefydliad trydydd sector cyntaf yng Nghymru i dderbyn gwobr safon aur InSport Anabledd Cymru.

Crëwyd rôl newydd i helpu cyrraedd a chysylltu â chymunedau amrywiol sydd wedi eu tangynrychioli yn ardal Caerdydd. Nooh Ibrahim, cyn ddisgybl Ysgol Fitzalan yw Swyddog Chwaraeon Cymunedol Amrywiol cyntaf y Mudiad. Bydd y rôl yn helpu’r Urdd i ymestyn cyrhaeddiad gwaith y Mudiad gan gefnogi’r nod i gyrraedd plant a phobl ifanc o bob cymuned.

Baner Glas yr Urdd yn chwifio o flaen Canolfan y Mileniwm

Roedd blwyddyn y 100 yn flwyddyn fawr, brysur a chyffroes i’r Urdd. Roedd 2022 yn gyfle i’r Urdd ddathlu ac ymfalchïo fod y Mudiad yn parhau i gynnig cyfleoedd i blant a phobl ifanc Cymru yn y Gymraeg, a bod gweledigaeth Syr Ifan ab Owen Edwards yn fyw hyd heddiw.

Cliciwch yma i weld llinell amser dathlu canmlwyddiant yr Urdd