Gallwn ddarparu ar gyfer y gofynion dietegol canlynol, a llawer mwy:
- Llysieuol
- Fegan
- Diabetig (cysylltwch â ni am fwydlen cyfrif carbohydradau)
- Heb glwten
- Halal
- Alergeddau bwyd (mae’r fwydlen yn darparu gwybodaeth am 14 alergen Asiantaeth Safonau Bwyd)
Darperir dewisiadau amgen di-laeth, a gellir darparu cynhyrchion soi ar gais.
Gallwn addasu a darparu opsiynau gwahanol os caiff hyn ei drafod ymlaen llaw.
Nodwch bob gofyniad dietegol ar y Ffurflen Iechyd. Os hoffech drafod unrhyw ofynion cyn yr ymweliad, cysylltwch â ni.
Cysylltu â ni
Os hoffech gael copi o’r fwydlen ar gyfer cyfnod ymweliad eich plentyn, neu os hoffech drafod opsiynau dietegol, cysylltwch â Gareth, Pennaeth Arlwyo, ar:
Diodydd a safonau hylendid
Mae ffrwythau ffres, dŵr a sgwash ar gael yn rhad ac am ddim bob amser.
Mae’r Ganolfan wedi derbyn Sgôr Hylendid Bwyd o 5, sef y sgôr uchaf o dan Gynllun Sgorio Hylendid Bwyd Asiantaeth Safonau Bwyd.