I gwblhau’r alldaith Efydd, bydd angen cyflawni: 

Rhaid cymryd rhan yn y diwrnodau hyfforddiant, dim ots faint chi’n gwybod yn barod – prif bwrpas yw i ddod i’ch adnabod a rhannu gwybodaeth bwysig yn barod am yr alldaith. 

  • Cerdded fel grŵp o 4-7 aelod 
  • Fel grŵp, ysgrifennu cynllun bwyd a cherdyn cerdded i bob diwrnod am yr alldaith! 
  • Fel grŵp, cyflawni nod penodol dros yr alldaith 
  • Hunangynhaliol am yr holl amser, a cherdded yw eich ffordd o deithio! 
  • Gwersylla dros nos 

Alldeithiau Agored Efydd – De Cymru

Cost ar gyfer pecyn llawn Efydd yn dechrau o £195pp, yn dibynnu ar y nifer o gyfranogwyr.

  • Trafnidiaeth
  • Llogi offer (pabell, sach gefn, mat cysgu, stof coginio, map a chwmpawd)
  • Ffi gwersylla
  • Hyfforddwyr ac aseswyr gymwys
  • Hyfforddiant a goruchwyliaeth dydd a nos

Barod i gofrestru?

Cliciwch ar y ddolen isod i dalu blaendal am le ar ein pecyn Efydd. Gwiriwch y dyddiadau cyn bwcio – mae’n bwysig eich bod chi’n cyflawni pob dyddiad er mwyn llwyddo. Mae’r pecyn yn cynnwys 2 ddiwrnod hyfforddiant ac alldaith 2 ddiwrnod gyda gwersylla.

Ar ôl cofrestru, byddaf mewn cyswllt i rannu mwy o wybodaeth am y diwrnodau hyfforddiant ac alldaith. Bydd hwn yn cynnwys llyfr gwybodaeth Dug Caeredin Efydd, efo gwybodaeth lleoliadau, amseroedd ac offer ar gyfer yr alldaith.

Cofrestru

Gallwn ddarparu hyfforddiant ac alldeithiau i’r Wobr Dug Caeredin Efydd, yn ogystal ag unrhyw hyfforddiant i staff a gwirfoddolwyr.

Mae cofrestru ar gyfer alldeithiau 2026 nawr ar agor!

Cofrestrwch Yma!

Nodwch:

Bydd angen eich rhif EDofE i lenwi’r ffurflen ar-lein. Mae rhaid i chi cofrestru gyda Sefydliad Trwyddedig, e.e ysgol neu grŵp ieuenctid, cyn gallu cofrestru ar alldeithiau’r Urdd. Plîs cysylltwch gyda’r Wobr Dug Caeredin os ydych yn ansicr ar sut i wneud hyn.

Plîs sicrhewch eich bod chi’n llenwi a thicio pob bocs ar y ffurflen, yn ogystal â mewnbynnu eich manylion cerdyn, cyn cadarnhau.