Fis Awst 2025 teithiodd 13 o aelodau ifanc o staff a gwirfoddolwyr yr Urdd i Kenya i weithio gyda merched ifanc yng nghymunedau Mombasa ac ardaloedd cyfagos. Rydym wedi sefydlu partneriaeth gryf gyda’r elusen Moving the Goalposts (MTG), sy’n cefnogi merched gan ddefnyddio chwaraeon fel arf i ddatblygu eu hyder, eu sgiliau a’u dyfodol. Mae MTG yn creu cyfleoedd i’r merched hyn dyfu’n bersonol ac yn economaidd, gan eu grymuso i adeiladu bywydau mwy diogel a chadarn.
Roedd y daith yn brofiad bythgofiadwy, ac roedd llawer o’r bobl ifanc a gymerodd ran yn siarad am yr effaith bositif gafodd ar eu datblygiad a’u hyder.